Pwy sy'n cael ymuno?
Cewch ymuno:
- os oes gennych chi gontract cyflogaeth sy'n para 3 mis o leiaf,
- os ydych chi dan 75 oed, ac
- rydych yn gweithio i gyflogwr sy'n eich caniatau i ymuno â'r Cynllun.
Bydd y mwyafrif o gyflogeion y caniateir iddynt ymuno'n dod yn aelod fel mater o drefn. Ond mae gennych chi hawl i optio allan o'r Cynllun unrhyw adeg.
Sut ydw i'n ymuno?
Os nad ydych chi'n aelod yn barod a chithau am ymuno, fe ddylech chi siarad â'ch cyflogwr.
Sut ydw i'n gwybod a ydw i wedi ymuno'n barod?
Edrychwch ar eich slip cyflog i weld a ydych chi'n talu i mewn i'r Cynllun ac, os nad ydych chi, cysylltwch â'ch cyflogwr i gael gwybod a gewch chi ymuno.
Beth os ydw i'n aelod o gynllun pensiwn arall yn barod?
Gallwch chi fod yn aelod o'r Cynllun hefyd os ydych chi'n cyfrannu at bensiwn personol neu drefniant cyfranddeiliaid.