Ydych chi’n …

Talu i mewn

Cylchlythyr i Aelodau Actif – Newyddion Pensiwn Gwent  

Cyhoeddir y cylchlythyr hwn bob blwyddyn trwy Fy Mhensiwn Ar-lein neu drwy’r post. Caiff ei gyhoeddi pan fyddwn yn cyhoeddi Datganiadau Buddion Blynyddol ac mae’n esbonio sut i weld eich datganiad trwy eich cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein. Ceir ynddo wybodaeth ddefnyddiol am unrhyw newidiadau i reolau’r cynllun, materion amserol yn ymwneud â phensiynau a’r diweddaraf am y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar eich cyfer. 

Datganiadau Buddion Blynyddol 

Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi datganiad electronig trwy Fy Mhensiwn Ar-lein a byddwch yn gallu gweld eich datganiad trwy eich cyfrif. 

Peidiwch ag anghofio dweud wrthym am y pethau canlynol: 

  • mae eich cyfeiriad neu gyfeiriad e-bost yn newid 

  • mae eich statws o ran partneriaeth yn newid 

  • rydych yn dymuno newid y buddiolwr yr ydych wedi ei enwebu ar gyfer y grant marwolaeth  

Nid ydych yn talu i mewn mwyach

Datganiadau Buddion Blynyddol 

Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi datganiad electronig trwy Fy Mhensiwn Ar-lein a byddwch yn gallu gweld eich datganiad, a’i argraffu, trwy eich cyfrif. 

Peidiwch ag anghofio cadw mewn cysylltiad a dweud wrthym am y pethau canlynol: 

  • mae eich cyfeiriad neu gyfeiriad e-bost yn newid 

  • mae eich statws o ran partneriaeth yn newid 

  • rydych yn dymuno newid y buddiolwr yr ydych wedi ei enwebu ar gyfer y grant marwolaeth  

Cael eich pensiwn CPLlL

Cylchlythyr i Bensiynwyr - Gwent Grapevine 

Dyma’r cylchlythyr yr ydym yn ei gyhoeddi bob blwyddyn ym mis Rhagfyr i’ch diweddaru am yr hyn sy’n digwydd gyda Chronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) ac yn y byd pensiynau yn gyffredinol. 

Tystysgrifau Diwedd Blwyddyn P60  

Mae P60 yn dystysgrif sy’n dangos faint o bensiwn a dalwyd a’r dreth a dynnwyd yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol. Byddwn yn anfon P60 atoch ym mis Mai bob blwyddyn. Gallwch hefyd weld manylion eich P60 a’u hargraffu trwy eich cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein. 

Slipiau cyflog 

Rydym yn anfon slip cyflog atoch o leiaf dair gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, mis Ebrill a mis Mai. Gallwch hefyd weld eich slipiau cyflog ar-lein trwy eich cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein 

Codiad Pensiwn  

Mae eich pensiwn yn codi bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) bob mis Ebrill. Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw gynnydd i’ch pensiwn bob tro, yng nghylchlythyr Gwent Grapevine. 

Peidiwch ag anghofio cadw mewn cysylltiad â ni a dweud wrthym am y pethau canlynol: 

  • mae eich cyfeiriad neu gyfeiriad e-bost yn newid 

  • mae eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid 

  • rydych yn cael swydd arall lle y gallwch ymuno â’r CPLlL 

  • mae eich statws o ran partneriaeth yn newid 

  • rydych yn dymuno newid y buddiolwr yr ydych wedi ei enwebu ar gyfer y grant marwolaeth  

Dolenni defnyddiol

Gwefannau’r llywodraeth am bensiynau

Direct.gov

Gwybodaeth gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ar-lein. 

Adran Gwaith a Phensiynau 

Yr Adran Gwaith a Phensiynau 

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi 

Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn sicrhau y telir y dreth gywir ar yr adeg iawn. 

HelpwrArian 

Mae HelpwrArian yn dod â chanllawiau yn ymwneud ag arian a phensiynau at ei gilydd fel ei bod yn haws ac yn gyflymach dod o hyd i’r cymorth iawn. Mae’n dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr canllawiau ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, at ei gilydd mewn un man: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. 

Mae adnoddau rhad ac am ddim fel HelpwrArian neu wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn wych. Gallant eich helpu i feithrin eich gwybodaeth am bensiynau a’ch tywys trwy’r materion pwysig yr ydych yn eu hwynebu wrth i chi ymddeol. Yn hytrach na rhoi arweiniad cyffredinol i chi, bydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn edrych ar eich amgylchiadau unigol, eich sefyllfa ariannol a’ch nod wedi ymddeol, ac yn cynnig argymhelliad sy’n benodol i’ch sefyllfa bersonol chi. Ni fydd pob un eisiau talu am wasanaeth Cynghorydd Ariannol Annibynnol, ond os ydych yn dymuno talu, yna mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio un sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Os oes arnoch angen cyngor am drosglwyddo eich cynilion pensiwn, dylech siarad â Chynghorydd Ariannol Annibynnol sydd â chymhwyster yn y maes hwn. 

Gallwch ddod o hyd i Gynghorydd Ariannol Annibynnol lleol sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, trwy ddefnyddio teclyn o’r enw ‘Darganfod ymgynghorydd ymddeoliad’ sydd ar gael gan HelpwrArian. 

Y Gwasanaeth Pensiwn 

Am wybodaeth am bensiynau’r wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch ddarganfod ar ba oed y gallwch hawlio pensiwn y wladwriaeth. 

Y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn 

Os oeddech yn aelod o gynllun arall yn y gorffennol, ac rydych wedi colli cysylltiad â nhw, yna dylai’r corff canolog hwn fod yn gallu eich helpu i ddod o hyd iddynt. 

Y Rheoleiddiwr Pensiynau 

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn wylgi pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn iawn. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau rhag twyll. Gall unrhyw un sy’n pryderu am gynllun ‘chwythu’r chwiban’ wrth y Rheoleiddiwr Pensiynau. 

Yr Ombwdsmon Pensiynau 

Sefydlwyd yr Ombwdsmon Pensiynau o dan y Ddeddf Pensiynau, ac mae’n gallu ymchwilio i unrhyw gŵyn neu anghydfod neu ffaith gyfreithiol sy’n ymwneud â’ch cynllun pensiwn, a’u pennu. 

 

Gwybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. 

Mae’r wefan hon ar gyfer cyflogeion yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y CPLlL newydd sy’n berthnasol er 1 Ebrill 2014. 

Adroddiad Blynyddol Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

Yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru a Lloegr. 

Gwefannau gwasanaethau ariannol

Unbiased.co.uk

Chwiliwch am gynghorydd ariannol annibynnol. Sicrhewch eu bod yn deall y CPLlL. 

Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol 

Gwybodaeth am wasanaethau ariannol y Deyrnas Unedig. Cynnyrch ariannol a chyngor am arbed arian. 

Money Magpie

Gwefan ariannol hunan-gymorth flaenllaw’r Deyrnas Unedig. 

Money Saving Expert

Ewch i’r wefan hon am gyngor am leihau eich costau.  

Gwefannau defnyddiol eraill

Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol

Cymorth i awdurdodau lleol yn eu rôl adnoddau dynol. Maent yn helpu trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar reoli a datblygu pobl mewn llywodraeth leol ac arwain y broses o ffurfio polisïau am rai o’r materion sy’n gysylltiedig â chyflogwyr. 

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau  

Mae’r adran hon yn gyfrifol am feysydd polisi yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau gynt a’r Swyddfa Cabinet. 

Age UK

Mae Age Concern yn cefnogi pob un dros 50 yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau eu bod yn cael y gorau o fywyd. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol, er enghraifft gofal dydd a gwybodaeth. Maent hefyd yn ymgyrchu dros faterion fel gwahaniaethu ar sail oed a phensiynau, ac yn gweithio i ddylanwadu ar farn y cyhoedd a pholisi’r llywodraeth mewn perthynas â phobl hŷn.

Cyngor ar Bopeth 

Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill, trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim o dros 3,000 o leoliadau, a thrwy ddylanwadu ar y rheiny sy’n llunio polisïau. Gallwch ddod o hyd i fanylion swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol trwy fynd i wefan Cyngor ar Bopeth. 

Phoenix Life 

Cyngor defnyddiol er mwyn adnabod sgamiau yn ymwneud â phensiynau, a’u hosgoi.