Y pethau sylfaenol am bensiynau

Beth yw pensiwn?

Mae pensiwn yn ffynhonnell incwm reolaidd i chi fyw arni wedi i chi ymddeol. 

Cliciwch yma i weld fideo byr sy’n disgrifio beth yw pensiwn.  

Beth yw’r mathau gwahanol o gynlluniau pensiwn?

Pensiwn gweithle cymwys 

Yn ganlyniad i ddeddfwriaeth cofrestru awtomatig, rhaid i bob cyflogwr gynnig mynediad i’w cyflogeion at gynllun pensiwn y gweithle sy’n cwrdd â rhai safonau penodol. Mae’r CPLlL yn bodloni’r safonau hyn ac, felly, mae’n gynllun pensiwn gweithle cymwys. 

NEST (National Employment Savings Trust) 

Cynllun pensiwn gweithle’r Llywodraeth yw NEST ac fe’i sefydlwyd yn arbennig ar gyfer cofrestru awtomatig. 

Pan na fydd cyflogwr yn rhoi mynediad i bensiwn gweithle ei hun, gall ddefnyddio NEST i fodloni dyletswyddau pensiwn y gweithle, waeth pa mor fawr neu fach fo’r sefydliad. Gall ddefnyddio NEST ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â chynllun sydd eisoes ar waith. 

Pensiynau personol 

Cwmnïau yswiriant a banciau sy’n darparu pensiynau personol ac maent yn boblogaidd ymhlith pobl hunangyflogedig sydd heb fynediad at bensiwn gweithle. 

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cynlluniau pensiwn personol i’w cyflogeion ac yn talu cyfraniadau i mewn iddynt. 

Mae pensiynau personol yn cynnig dewis o gronfeydd buddsoddiad y gall buddsoddwyr ddewis ohonynt. Defnyddir y buddsoddiadau hyn i brynu pensiwn wrth ymddeol. 

Pensiynau cyfranddeiliaid 

Yn y bôn, mae pensiynau cyfranddeiliaid yn gynlluniau pensiwn personol â chost isel. 

Yn sgil y newidiadau i gynlluniau pensiwn y gweithle o dan gofrestriad awtomatig, mae dyfodol cynlluniau cyfranddeiliaid a noddir gan y cyflogwr, yn ansicr, oherwydd bydd gofyn diwygio llawer ohonynt er mwyn bodloni dyletswyddau cyflogwyr o ran pensiwn y gweithle. 

Pensiynau’r cwmni (galwedigaethol)  

Mae pensiwn galwedigaethol neu bensiwn y cwmni yn derm arall am gynllun pensiwn y gweithle. Caiff ei ddefnyddio fel arfer i ddisgrifio cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan gyflogwyr yn y sector preifat. 

Beth yw cyfandaliad di-dreth?

Mae cynlluniau pensiwn, waeth a ydynt yn gynlluniau sy’n seiliedig ar waith neu’n bensiynau personol, yn caniatáu i aelodau gymryd rhan o’u buddion fel cyfandaliad di-dreth pan fyddant yn ymddeol. 

Gall y CPLlL dalu swm ariannol di-dreth adeg eich ymddeoliad. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar hyd eich aelodaeth o’r cynllun, a hyd eich aelodaeth fydd yn pennu p’un ai y telir y cyfandaliad yn awtomatig neu trwy ildio rhywfaint o’ch pensiwn. 

Beth yw blwydd-dal?

Mae blwydd-dal yn cyfnewid eich pensiwn prynu arian yn incwm am weddill eich oes. 

Mae cwmnïau yswiriant bywyd yn gwerthu blwydd-daliadau a gallwch ychwanegu opsiynau gwahanol a chael mathau gwahanol, gan ddibynnu ar eich anghenion a’ch amgylchiadau. 

Mae’r CPLlL yn talu pensiynau yn syth o’r Cynllun, ac felly ni fydd gofyn i chi brynu blwydd-dal os ydych yn ymuno â’r Cynllun. 

Sut y mae cynlluniau Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio?

Mewn cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio, defnyddir y cyflog pensiynadwy am bob blwyddyn o aelodaeth er mwyn cyfrifo swm y pensiwn ar gyfer y flwyddyn benodol honno. Yna, mae swm y pensiwn yn codi (cael ei adbrisio) bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Caiff y symiau pensiwn unigol hyn eu cyfuno er mwyn cyfrifo cyfanswm y pensiwn sy’n daladwy o’r cynllun. 

Am ragor o wybodaeth ewch i adran 'Sut y mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio'. 

Sut y mae cynlluniau cyfraniad diffiniedig/prynu arian yn gweithio?

Rydych yn adeiladu cronfa bensiwn trwy ddefnyddio eich cyfraniadau a chyfraniadau eich cyflogwr (os yw’n cyfrannu) ac unrhyw enillion ar fuddsoddiadau (os oes rhai) a rhyddhad treth. 

Wrth i chi ymddeol, gallwch gymryd cyfandaliad di-dreth o’ch cronfa a defnyddio’r gweddill i sicrhau incwm – fel arfer ar ffurf blwydd-dal. 

Yn wahanol i’r CPLlL, ni warentir faint y byddwch yn ei gael. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn y sector preifat yn gynnig trefniant cyfraniad diffiniedig i’w cyflogeion. 

Eich bywyd, eich pensiwn

Rydw i’n ymuno â’r gweithlu

Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio am y tro cyntaf, byddwch yn teimlo bod eich ymddeoliad ymhell, bell i ffwrdd. 

Mae symiau bach, rheolaidd, yn cronni gydag amser 

Efallai na fydd gennych ryw lawer o arian sbâr wrth i chi ddechrau yn y gweithle, ac efallai na fydd cynilo ar gyfer eich ymddeoliad yn uchel iawn ar eich rhestr o flaenoriaethau. 

Mae’r cyfle i ymuno â chynllun fel CPLlL yn gallu bod yn fantais ac yn gallu’ch helpu yn eich ymdrechion i sicrhau lefel resymol o incwm wedi i chi ymddeol. Fodd bynnag, efallai na fydd y pensiwn a gewch o’r gronfa yn y pendraw, ac unrhyw bensiynau eraill y byddwch wedi eu cronni, yn ddigon i chi allu ymddeol yn gyffyrddus.  

Os ydych yn gallu fforddio cynilo mwy, gallai fod yn werth i chi roi ychydig mwy i mewn i’ch pensiwn gyda phob cyflog. Nid oes angen i chi gynilo rhyw lawer, ond bydd beth bynnag yr ydych yn ei roi i mewn yn adeiladu gydag amser a gallech fod yn diolch i chi’ch hun yn y pendraw. Parhewch i ddarllen i weld sut allwch chi dalu mwy i mewn i’ch pensiwn. 

Mae unrhyw benderfyniad i ymuno â chynllun pensiwn neu i dalu mwy i mewn, yn un pwysig a dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor ariannol iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.   

Cael eich pensiwn ynghyd 

Dylech gadw llygad ar eich holl gynilion pensiwn yn ystod eich gyrfa a meddwl faint o incwm misol y bydd ei angen arnoch, yn eich tyb chi, wedi i chi ymddeol. 

Po ieuengaf yr ydych chi, yr anoddaf y bydd cynllunio ar gyfer eich anghenion, ond ceisiwch gyfrifo’r swm y bydd arnoch ei angen, a’i adolygu’n rheolaidd. Wrth i chi fynd yn hŷn, cewch well amcan o’r pensiwn yr ydych yn debygol o fod â’i angen, ac os ydych wedi cynllunio’n dda bydd yn haws cyrraedd eich nod. 

Rwy’n symud i swydd arall

Os ydych yn symud i swydd newydd, bydd gennych benderfyniadau pwysig i’w gwneud.   

Fwy na thebyg y bydd cyfle i chi ymuno â chynllun pensiwn cwmni arall gyda’ch cyflogwr newydd, ac efallai y byddwch yn cael eich cofrestru gyda’r cynllun hwnnw’n awtomatig o dan gofrestriad awtomatig. Sicrhewch eich bod yn holi am hyn wrth i chi fynd trwy’r broses recriwtio. 

Bydd gofyn i chi benderfynu a ydych yn dymuno cadw’ch buddion yn y Cynllun neu eu trosglwyddo i gynllun pensiwn eich cyflogwr newydd. 

Wrth i chi symud i swydd arall, mae hefyd yn adeg dda i sicrhau bod eich pensiwn ar y trywydd cywir o hyd, er mwyn sicrhau sefyllfa iach wedi i chi ymddeol.  

 

Mae symiau bach, rheolaidd, yn cronni gydag amser 

Pan fyddwch chi’n symud i swydd newydd, efallai y byddwch yn dymuno ailystyried faint yr ydych yn ei gyfrannu at eich pensiwn. Os ydych yn ennill mwy, efallai y byddwch yn gallu fforddio cyfrannu mwy.  

Beth bynnag yw’r penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud ynghylch ymuno â chynllun pensiwn eich cyflogwr newydd, neu symud yr hyn sydd gennych yn y gronfa, dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor ariannol. 

Rwy’n cynnal fy nheulu

Mae cael teulu yn gallu bod yn adeg brysur. Ond, mae’n bwysig i chi beidio â gadael i’ch pensiwn lithro o’ch gafael. 

Sicrhewch eich bod yn darparu ar gyfer eich teulu 

Mae eich CPLlL yn rhoi sicrwydd i chi ac i’ch teulu. Petaech chi’n marw a chithau’n gweithio o hyd, gellid talu cyfandaliad a phensiwn i’ch teulu. 

Gallwch hefyd dalu mwy, er mwyn i’ch teulu gael mwy o gyfandaliad neu mwy o bensiwn os digwydd i chi farw a chithau’n gweithio o hyd, neu ar ôl i chi ymddeol. Mae’r rhain yn fuddion gwerthfawr sy’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ac i’ch teulu, petai pethau’n dod i’r gwaethaf. 

Yr Adran 50/50  

Pan fydd plant bach gennych, mae’n anodd dod o hyd i’r amser i glymu’ch careiau heb sôn am sicrhau bod pob dim yn iawn gyda’ch pensiwn. Efallai na fydd gennych lawer o arian sbâr, ond peidiwch ag anghofio’r gwahaniaeth y bydd ychydig bach bob wythnos yn ei wneud i’ch buddion terfynol wedi ichi ymddeol. 

Os ydych chi’n ystyried optio allan oherwydd y gost, gallwch aros yn y Cynllun a thalu llai.  

Mae yna opsiwn o’r enw’r Adran 50/50 sy’n caniatáu i chi dalu hanner y cyfraniadau, a chronni hanner y pensiwn yn unig. 

Os oes gennych fwy nag un swydd, gallwch ddewis gwneud hyn ar gyfer un o’r swyddi, rhai o’r swyddi neu bob un o’r swyddi hynny. 

Ni fydd hyn yn effeithio ar fuddion eich goroeswyr 

Bydd eich cyflogwr angen i chi nodi’ch dewis yn ysgrifenedig. 

Bwriedir hyn fel ateb byrdymor yn unig, a bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfraniadau llawn unwaith eto pan fydd yn rhaid i’ch cyflogwr eich ailgofrestru bob tair blynedd. 

Os ydych yn absennol o’r gwaith heb gyflog oherwydd salwch, bydd yn rhaid i chi dalu’r gyfradd lawn unwaith y bydd eich cyflog yn ailddechrau. 

Talu cyfraniadau ychwanegol 

Rhagor o wybodaeth am dalu mwy i mewn i’ch pensiwn. 

Dylech gael cyngor ariannol cyn i chi ddod i unrhyw benderfyniad ynghylch talu mwy i mewn i’ch pensiwn. 

Rwy’n cynllunio ar gyfer fy ymddeoliad

Mae pensiynau yn gynlluniau cynilo hirdymor, ac felly mae’n bwysig dechrau cynllunio cyn gynted â phosibl yn eich gyrfa. 

Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw cyfrifo i weld a fydd gennych ddigon i ariannu’r math o ymddeoliad yr ydych yn ei ddymuno. 

Meddyliwch am eich opsiynau ymddeol 

Wrth i chi agosáu at eich ymddeoliad, byddwn yn anfon manylion eich opsiynau atoch. 

Bydd gofyn i chi wneud penderfyniadau pwysig o ran sut yr ydych am gymryd eich buddion. Gallwch gymryd y pecyn safonol, ac ar gyfer y rhan fwyaf o aelodau bydd hynny’n golygu pensiwn gyda’r opsiwn o ddewis ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad. Os ydych wedi bod yn talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, bydd y rhain yn rhoi hyd yn oed mwy o opsiynau i chi. 

Mynnwch gyngor 

Cyn i chi ddod i unrhyw benderfyniadau mawr, mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor ariannol. 

Gallwch gysylltu â ni hefyd, i siarad am eich ymddeoliad. 

Rwy’n cael fy nghofrestru/ailgofrestru yn awtomatig

Pan fyddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig am y tro cyntaf, neu pan fyddwch yn cael eich ailgofrestru, mae gennych benderfyniadau pwysig i’w gwneud o ran dewis a ydych yn mynd i aros yn y Cynllun ai peidio. 

Mae symiau bach, rheolaidd yn cronni gydag amser 

Efallai na fydd gennych lawer o arian sbâr pan gewch eich cofrestru neu ailgofrestru’n awtomatig, ac efallai na fydd cynilo ar gyfer eich ymddeoliad yn uchel iawn ar eich rhestr o flaenoriaethau bryd hynny. 

Gall y cyfle i ymuno â’r CPLlL fod yn fantais, a’ch rhoi chi ar ben ffordd i sicrhau incwm rhesymol wedi i chi ymddeol. Fodd bynnag, efallai na fydd y pensiwn y byddwch yn ei gael yn y pendraw, ac unrhyw bensiynau eraill y byddwch wedi eu cronni, yn ddigon i chi ymddeol yn gyfforddus. 

Os ydych yn gallu fforddio rhoi ychydig bach ychwanegol i mewn i’ch pensiwn gyda phob cyflog, yna gallai fod yn werth chweil. Nid oes angen i chi roi llawer i mewn, ond bydd beth bynnag y byddwch yn ei dalu i mewn yn cronni gydag amser, a gallech fod yn diolch i chi’ch hun yn nes ymlaen. 

Rhagor o wybodaeth am dalu arian ychwanegol i mewn i’ch pensiwn. 

Beth bynnag fydd eich penderfyniadau, o ran aros yn y Cynllun neu optio nôl allan, dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor ariannol iawn cyn dod i unrhyw benderfyniadau. 

Rhowch drefn ar eich pensiwn 

Dylech gadw llygad ar eich holl gynilion pensiwn yn ystod eich gyrfa, a chymryd amser bob nawr ac yn y man i gynllunio faint o incwm misol y bydd ei angen arnoch wedi i chi ymddeol. 

Po ieuengaf yr ydych chi, yr anoddaf y bydd cynllunio ar gyfer eich anghenion, ond ceisiwch gyfrifo’r swm y bydd arnoch ei angen, a’i adolygu’n rheolaidd. Wrth i chi fynd yn hŷn, cewch well amcan o’r pensiwn yr ydych yn debygol o fod â’i angen, ac os ydych wedi cynllunio’n dda bydd yn haws cyrraedd eich nod. 

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol