Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.gwentpensionfund.org.

Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) sy’n gweithredu’r wefan hon.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, waeth pa dechnoleg sydd ganddynt a waeth beth fo’u gallu.

Ein nod yw cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd Web Content Accessibility Guidelines 2.0 World Wide Web Consortium (W3C) ar lefel A. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut i sicrhau bod cynnwys ar y we yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Trwy gydymffurfio â’r canllawiau hyn bydd yn haws i bob un ddefnyddio’r we.

Adeiladwyd y wefan hon gan ddefnyddio cod sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer XHTML a CSS. Mae’r wefan yn dangos yn gywir mewn porwyr cyfredol a thrwy ddefnyddio cod sy’n cydymffurfio â’r safonau bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd yn dangos yn gywir.

Rydym yn defnyddio’r un dyluniad ar gyfer y wefan gyfan er mwyn i bob un gael profiad da, ac ar yr un pryd mae modd newid maint y testun a’r lliwiau fel eu bod yn addas at anghenion unigol.

Isod, gallwch ddarllen mwy am y dewisiadau penodol sydd ar gael a chyngor am sut i gael y mwyaf o’r wefan.

Delweddau

Rydym yn sicrhau bod pob delwedd a ddefnyddir fel dolen neu sy’n rhoi gwybodaeth ychwanegol, yn cael disgrifiadau testun priodol i gyd-fynd â nhw ("ALT text"), fel sy’n ofynnol mewn canllawiau hygyrchedd a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer y We. Yn yr un modd, mae gan bob botwm gwe-lywio graffigol dag a elwir yn “ALT-tag”. Nid oes tagiau ar ddelweddau addurniadol er mwyn sicrhau nad ydynt yn ymyrryd pan fydd rhywun yn defnyddio rhaglen darllen sgrin.

Cymraeg a Saesneg Clir

Deallwn fod angen i ni gyflwyno gwybodaeth i chi mewn iaith glir, syml. Felly, ein nod yw ysgrifennu tudalennau ein gwefan gan ddefnyddio Cymraeg a Saesneg clir sy’n meddwl am y sawl fydd yn defnyddio’r wefan yn y pendraw - dim jargon, dim iaith ffurfiol, dim acronymau i’ch drysu. Os digwydd i chi weld tudalen sydd ddim yn gwneud synnwyr neu sydd wedi ei hysgrifennu’n wael, cofiwch ddweud.

Newid maint y testun a’r lliwiau

Gallwch newid maint y testun yn Internet Explorer trwy fynd i View > Text size a dewis y maint sydd orau i chi. 

Gallwch ddewis lliwiau’r testun yn Internet Explorer. Ewch i Tools > Internet options > Accessibility a thicio’r blychau i ddiffodd y lliwiau diofyn. Yna ewch yn ôl i Colours er mwyn dewis y lliwiau fyddai orau i chi. 

Mae gan AbilityNet gyngor am wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd neu nam.

Mae hyn yn cynnwys sut i:

  • wneud testun yn fwy o faint
  • chwyddo’r sgrin
  • newid ffontiau a lliwiau
  • sicrhau bod pwyntiwr eich llygoden yn hawdd ei weld
  • defnyddio’ch bysellfwrdd yn lle llygoden
  • gwneud i’ch dyfais siarad â chi

Gallwch gyfieithu’r wefan hon i iaith o’ch dewis, trwy newid y gosodiadau yn eich porwr (er enghraifft Internet Explorer, Chrome neu Safari). 

Defnyddio fformatau ffeiliau a thechnolegau mewn ffordd synhwyrol

Mae’r wefan hon yn defnyddio fformat ffeil PDF (Adobe Acrobat) i gyhoeddi dogfennau mawr a chymhleth. Sylwer bod modd newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun cyffredin gan ddefnyddio gwasanaeth trawsnewid Adobe sydd ar y we.

Er mwyn gweld ffeiliau PDF, a’u hargraffu, rhaid bod gennych raglen ddarllen Adobe® Acrobat® Reader ar eich dyfais: https://acrobat.adobe.com/uk/en/acrobat/pdf-reader.html

Gallwch newid y gosodiadau ar Adobe Reader er mwyn i’r ffeiliau PDF weithio’n well gyda rhaglenni darllen sgrin. 

Agor tudalennau mewn ffenestri newydd

Wrth i chi bori trwy’r wefan a chlicio ar ddolenni gwe-lywio neu ddolenni mewn tudalennau, fel arfer byddant yn agor yn yr un ffenestr er mwyn i chi allu symud trwy’r wefan yn hwylus.

Bydd dolenni i ddogfennau PDF yn agor mewn ffenestr newydd gan fod y rhain yn ddogfennau y gellir eu lawrlwytho.

Bydd dolenni allanol hefyd yn agor mewn ffenestr newydd gan eu bod yn mynd â chi i wefan arall.

Os ydych yn dymuno agor unrhyw ddolen mewn ffenestr newydd, gallwch ddal y botwm Shift ac yna clicio ar y ddolen. Os ydych yn dymuno agor dolen mewn tab newydd yn eich porwr, daliwch y botwm CTRL a chlicio ar y ddolen. 

Beth os na allwch chi ddefnyddio rhannau penodol o’r wefan hon

Rydyn ni’n gweithio’n ddiwyd i wella nodweddion hygyrchedd y wefan hon ac yn croesawu’ch awgrymiadau a’ch sylwadau. 

Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall, er enghraifft ffeil PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.