Beth sy’n digwydd wedi i mi farw? 

Pan fyddwch chi’n marw, mae’n bwysig i’r sawl sy’n gofalu am eich materion ddweud wrthym cyn gynted â phosibl. Yna, gallwn atal eich pensiwn a chyflwyno unrhyw bensiynau newydd sy’n ddyledus. Bydd hyn yn gymorth i ni sicrhau nad ydym yn gordalu unrhyw arian ac yna’n gorfod hawlio’r arian yn ôl. 

Beth ddylai’r sawl sy’n gofalu am fy materion ei wneud? 

Os digwydd i chi farw, bydd angen i’r sawl sy’n gofalu am eich materion gysylltu â ni a rhoi’r wybodaeth ganlynol i ni: 

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth "Dywedwch Wrthym Unwaith" y llywodraeth sy’n eich galluogi i ddweud wrth y rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth am farwolaeth, ar yr un pryd. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi manylion hyn i chi. Gallwch wylio fideo yn esbonio sut y mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio, yma. 

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni