Cyflogwyr
Croeso i’r adran o’n gwefan i gyflogwyr. Mae’r adran hon wedi cael ei chreu i helpu cyflogwyr i weinyddu’r CPLlL yn effeithiol.
Croeso i’r adran o’n gwefan i gyflogwyr. Mae’r adran hon wedi cael ei chreu i helpu cyflogwyr i weinyddu’r CPLlL yn effeithiol.
CYHOEDDIAD
Croeso i’n tudalen newydd i Gyflogwyr. Mae’r dudalen hon i Gyflogwyr sy’n defnyddio Cynllun Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen). Mae’r Gronfa Bensiwn wrthi’n datblygu’r dudalen hon ar hyn o bryd. Os na allwch ddod o hyd i ffurflen neu ganllaw ar y dudalen hon, yna da chi cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn er mwyn i ni anfon y ddogfen berthnasol atoch.
Mae LGA yn darparu dewis o ganllawiau a gwybodaeth ar ei gwefan, fel cymorth i gyflogwyr ddeall eu rôl wrth weinyddu’r CPLlL a chyflawni’r rôl honno
Mae’r canllawiau hyn yn esbonio gofynion, cyfrifoldebau a dyletswyddau adrannau Adnoddau Dynol cyflogwyr y cynllun sy’n cynnig aelodaeth o’r CPLlL i gyflogeion yng Nghymru a Lloegr. Mae’r wybodaeth a geir yn y canllawiau yn nodi’r wybodaeth y dylai cyflogwyr ei rhoi i Gronfa Bensiwn CPLlL, fan lleiaf, er mwyn ei galluogi i weinyddu’r CPLlL. Dylid gweld y wybodaeth hon fel gwybodaeth sy’n ychwanegol at unrhyw ofynion gwybodaeth a roddwyd i gyflogwyr Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) ac nid fel gwybodaeth sy’n cymryd lle’r wybodaeth honno.
Canllawiau Adnoddau Dynol LGA
Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r gofynion ar gyfer adrannau Cyflogres cyflogwyr sy’n cynnig aelodaeth o’r CPLlL i gyflogeion yng Nghymru a Lloegr. Daeth y canllawiau hyn i rym ar 1 Ebrill 2014 ac maent yn cyfeirio at y cynllun cyfartaledd gyrfa fel ‘Cynllun 2014’ a’r cynllun pensiwn cyflog terfynol fel ‘Cynllun 2008’.
Canllawiau’r Gyflogres LGA
Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu pob disgresiwn mandadol, a phob disgresiwn anfandadol a argymhellir, y mae gan gyflogwyr y cynllun y pŵer i’w defnyddio mewn perthynas ag aelodau Cyfartaledd Gyrfa’r CPLlL a chynlluniau cynharach. Rhaid iddynt lunio datganiad polisi am ddisgresiwn, ei gyhoeddi a’i adolygu’n barhaus.
Canllawiau Technegol i Ddisgresiwn LGA
Ar wefan Rheoliadau ac Arweiniad y CPLlL mae yna adran adnoddau i gyflogwyr ar gyfer cyflogwyr y CPLlL. Mae arni Reoliadau’r CPLlL, canllawiau i gyflogwyr, fideos hyfforddiant byr, cyfleoedd hyfforddiant eraill sydd ar droed a bwletinau newyddion misol y CPLlL.
Adran Adnoddau i Gyflogwyr LGA
Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn pan fydd aelod yn gadael eu swydd gyda chi ac yn talu i mewn i’r CPLlL gyda’r Gronfa.
Hysbysiad gadael y CPLlL mewn Swydd
Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ofyn am amcangyfrif ar gyfer aelod o’r pensiwn CPLlL. Dylech lenwi’r ffurflen hon dim ond os oes arnoch angen gwybod beth yw’r gost o wneud penderfyniad i derfynu cyflogai ar sail dileu swydd, effeithlonrwydd busnes, ymddeoliad hyblyg neu ymddeoliad oherwydd salwch.
Ffurflen Gais am Amcangyfrif (1)
Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn am unrhyw un o’r newidiadau canlynol yn ymwneud ag aelod:- • Ymuno ag adran 50/50 y CPLlL • Ailymuno â phrif adran y CPLlL • Newid Cyfeirnod y Swydd • Newid Cyfradd Gyfrannu Pensiwn • Newid Oriau Cytundebol • Newid Wythnosau Cytundebol • Saib mewn Gwasanaeth Pensiynadwy • Newid Enw • Newid Cyfeiriad • Newid cyfeiriad e-bost personol
Ffurflen Newid Amgylchiadau
Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn am gyflogai sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y CPLlL.
Hysbysiad Deiliad Swydd Newydd
Dylid llenwi’r ffurflen hon pan fydd cyflogwr yn dymuno gofyn i’r Gronfa Bensiwn ystyried ychwanegu Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol at restr y Gronfa o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig Annibynnol sydd wedi eu cymeradwyo.
Ffurflen Gais Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol
Tystysgrif IHC1 ar gyfer Aelodau Actif Cyfredol (sy’n dal i dalu i mewn i’r CPLlL). Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC2 i Aelodau Gohiriedig (sydd ddim yn talu i mewn i’r CPLlL mwyach) sydd wedi gadael ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl y dyddiad hwn. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC3 i Aelodau Gohiriedig sydd wedi gadael ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl y dyddiad hwn ond cyn 1 Ebrill 2014. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC4 i Aelodau Gohiriedig sydd wedi gadael ar 1 Ebrill 1998 neu ar ôl y dyddiad hwn ond cyn 1 Ebrill 2008. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC5 i Aelodau Gohiriedig sydd wedi gadael ar 1 Ebrill 1998 neu cyn y dyddiad hwn. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC6 i Gynghorydd Cymwys Cyfredol. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC7 i Aelodau sy’n gyn-Gynghorwyr. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC8 i Bensiynwyr Haen 3 Cyfredol lle daeth y gyflogaeth i ben ar ôl 31 Mawrth 2014 ac mae’r adolygiad ar waith 18 mis ar ôl atal y gyflogaeth a chyn yr Oedran Pensiwn Arferol. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC9 ar gyfer Pensiynwr Haen 3 Gohiriedig lle daeth y gyflogaeth i ben ar ôl 31 Mawrth 2018, mae’r adolygiad ar y gweill ar gais yr aelod tra bod pensiwn Haen 3 yn cael ei dalu, neu o fewn 3 blynedd wedi i daliadau pensiwn Haen 3 ddod i ben a chyn yr Oedran Pensiwn Arferol. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC10 ar gyfer Pensiynwr Haen 3 Gohiriedig lle mae’r adolygiad 3 blynedd neu fwy ar ôl i’r taliadau pensiwn Haen 3 ddod i ben a chyn yr Oedran Pensiwn Arferol, lle daeth y gyflogaeth i ben ar ôl 31 Mawrth 2014. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC12 ar gyfer Pensiynwr Haen 3 Gohiriedig lle daeth y gyflogaeth i ben cyn 1 Ebrill 2014, ac mae’r adolygiad ar y gweill o fewn 3 blynedd i’r dyddiad y daeth taliadau pensiwn Haen 3 i ben a chyn yr Oedran Pensiwn Arferol. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Tystysgrif IHC13 ar gyfer Pensiynwr Haen 3 Gohiriedig lle mae’r adolygiad ar y gweill 3 blynedd neu fwy ar ôl i’r taliadau pensiwn Haen 3 ddod i ben a chyn yr Oedran Pensiwn Arferol lle daeth y gyflogaeth i ben cyn 1 Ebrill 2014. Dylid rhoi’r dystysgrif hon i’r Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig er mwyn iddynt ei llenwi a rhoi eu barn.
Mae’r canllawiau hyn i Gyflogwyr a Chynghorwyr Meddygol y Cynllun ac mae’n cyflwyno darpariaethau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) mewn perthynas ag absenoldeb oherwydd salwch ac ymddeol ar sail afiechyd.
Ymddeol ar sail Afiechyd – Canllawiau i Gyflogwyr Awst 2014
Cynorthwyydd Pensiwn – Ffeithlen Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol
Cynorthwyydd Pensiwn – Ffeithlen 1 CPY F3.0 05072021
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno Polisi Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) mewn perthynas â dyfarnu Statws Corff a Dderbynnir. Cyfrifoldeb y Cyflogwr sy’n defnyddio ffynonellau allanol yw sicrhau y cedwir at y Polisi hwn. Gallai peidio â chydymffurfio â’r polisi hwn achosi oedi cyn dyfarnu Statws Corff a Dderbynnir i gontractwr neu ymddiriedolaeth newydd ac yn sgil hynny gallai achosi oedi cyn dyfarnu’r contract neu yn y broses o sefydlu’r ymddiriedaeth. Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cyflwyno’r materion hynny y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cytundeb Derbyn a’r gofyniad i sicrhau bod Bond, Indemniad neu Warantydd mewn lle. Yn ogystal, rhaid i’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru gydymffurfio â Chyfarwyddyd Trosglwyddo Staff Awdurdodau Cymru (Pensiynau) 2012.
Canllaw Cyflogwyr i’r Polisi a’r Gofynion ar gyfer Statws Corff a Dderbynnir
Mae angen i gyflogwyr anfon y taenlenni hyn at fewnflwch pensionsdata@torfaen.gov.uk. Er gwybodaeth, mae’r taenlenni hyn ar ddiwedd yr adran hon.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Os ydych yn defnyddio I-Connect, nid oes gofyn mwyach i chi lanlwytho’r taenlenni hyn yn fisol. Yn syml, rhaid i chi gwblhau 1 daenlen y mis a bydd y daenlen hon yn diweddaru cofnodion eich aelod yn awtomatig.
Y rheiny sy’n ymuno | Cyfraniadau Misol | Saib Mewn Gwasanaeth | Oriau Gwaith |
Ffurflenni Cychwyn a Newid Amgylchiadau
Y ffordd fwyaf effeithiol o anfon ffurflenni cychwyn a newid at y gronfa yw defnyddio taenlen, ond os oes angen i chi lenwi ffurflen ar gyfer aelod sengl, gallwch lawrlwytho’r ffurflenni hyn oddi ar yr adran ffurflenni i gyflogwyr ar y dudalen hon. Rhaid anfon y rhain at pensionsdata@torfaen.gov.uk
Rhaid anfon ffurflenni Ymadawyr, Amcangyfrif a Chyfraniadau Pensiwn Ychwanegol at pensions@torfaen.gov.uk.
Os oes gennych gwestiynau cyffredinol, anfonwch neges e-bost at pensions@torfaen.gov.uk. Os ydych yn ateb aelod penodol o’r tîm pensiynau, anfonwch eich ateb yn uniongyrchol atyn nhw gan ddefnyddio’u cyfeiriad e-bost.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i ddefnyddio I-Connect i anfon gwybodaeth am eich aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol at Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).
Canllaw i Lanlwytho Ffeiliau i I-Connect
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i greu cyfrifon defnyddwyr ar I-Connect er mwyn i chi anfon gwybodaeth am aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol at Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).
Canllaw i Fewngofnodi i I-Connect
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i anfon gwybodaeth am aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol at Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).
Canllaw i Ffurflenni Ar-lein I-Connect
Bydd y canllaw hwn yn rhoi dealltwriaeth lawn i chi o ragofynion ffeiliau ychwanegol y gyflogres ar gyfer darparwr cyflogres lluosog I-Connect (MPP) o ran eitemau data i’w cynnwys wrth i chi anfon gwybodaeth at Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) ar gyfer pob cyfnod cyflog.
Rhagofynion Tynnu Ffeiliau’r Gyflogres MPP I-Connect
Cyfathrebu a Newyddion |
Mae Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf yn hoffi rhoi’r newyddion diweddaraf i Gyflogwyr ein Cynllun a’r diweddaraf am y cymorth sydd ar gael |
Rydym yn cefnogi ein cyflogwyr trwy gynnig:-
|
Fy Mhensiwn Ar-lein |
Mae’r Gronfa’n galluogi aelodau i weld manylion eu pensiwn ar-lein trwy ein Gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Mae’n hawdd cofrestru ac os oes gennym gyfeiriad e-bost yr aelod ar eu cofnod pensiwn yn barod, gallant gael mynediad at eu manylion ar yr un diwrnod.
Gall aelodau ddiweddaru eu manylion personol, gan anfon gwybodaeth yn ddiogel at y Gronfa trwy eu cyfrif, gweld eu datganiad o fuddion blynyddol a defnyddio’r Teclyn Rhagamcanu Pensiwn i greu eu hamcangyfrifon eu hunain (rhwng 55 a 75 oed). Mae’r Gronfa Bensiwn yn dymuno sicrhau bod cynifer o’n haelodau â phosib yn manteisio ar y gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Er mwyn gwneud hyn mae arnom angen i chi, gyflogwyr ein cynllun, i helpu hysbysebu’r gwasanaeth yn rheolaidd. Gallwch wneud hyn trwy lawrlwytho ein hysbysebion wedi’u brandio a’u gosod ar eich mewnrwyd i staff, mewn cylchlythyron a gwybodaeth i gyflogeion newydd a hyd yn oed ar slipiau cyflog os yn bosibl. |
FMhA – Taflen A4 FMhA – Erthygl ar gyfer Cylchlythyr/Mewnrwyd
|
Cliciwch ar y botwm + ar y dde er mwyn dangos Rhestr o Gysylltiadau’r Gronfa Bensiwn
Os ydych yn ateb neges e-bost a gafwyd gan aelod o staff y Gronfa Bensiwn, dylech ei hateb yn uniongyrchol ac ni ddylech ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost cyffredinol a ddangosir isod.
Enw |
Math |
Cyfeiriad E-bost |
Cychwyn |
Taenlen |
|
Ffurflen |
||
Newid amgylchiadau |
Ffurflen |
|
Diweddaru Saib mewn Gwasanaeth |
Taenlen |
|
Diweddaru Oriau Gwaith |
Taenlen |
|
Cyfraniadau Misol |
Taenlen |
|
Diweddu |
Ffurflen |
|
Amcangyfrifon |
Ffurflen |
|
CPY |
Ffurflen |