Gallwch ddewis yr opsiwn hwn ar unrhyw adeg, ac mae’n golygu eich bod yn talu hanner y cyfraniadau y byddech yn eu talu fel arfer ond yn cronni hanner y pensiwn yn unig, yn ystod y cyfnod y byddwch yn talu llai o gyfraniadau. 

Os oes gennych fwy nag un swydd lle’r ydych yn aelod o’r Cynllun, gallwch dalu llai o gyfraniadau yn un o’r swyddi hyn, yn rhai ohonynt neu ymhob un ohonynt. 

Trwy dalu llai o gyfraniadau, nid ydych yn effeithio ar y buddion i oroeswyr na’r ddarpariaeth ‘marw yn y swydd’ sydd gennych yn rhan o’r Cynllun. 

Cynlluniwyd yr opsiwn 50/50 fel ateb byrdymor yn unig. Cewch eich cofrestru yn ôl ym mhrif adran y Cynllun yn awtomatig yn unol â dyddiad ailgofrestru awtomatig eich cyflogwr, felly ar ôl tair blynedd, o leiaf. Cewch eich gosod yn ôl ym mhrif adran y Cynllun hefyd yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb neu anaf pan na fyddwch yn cael unrhyw gyflog. Os ydych yn dymuno parhau i ddefnyddio’r opsiwn 50/50 rhaid i chi gyflwyno cais arall i’ch cyflogwr. 

Wrth gwrs, gallwch ddewis symud yn ôl i mewn i brif adran y Cynllun ar unrhyw adeg, a bydd eich cyflogwr yn gwneud hynny o’r cyfnod cyflog yn dilyn eich cyfarwyddyd ysgrifenedig. 

Os ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol, yna bydd y rhain yn dod i ben ar y pwynt pan fyddwch yn dewis cymryd yr opsiwn 50/50, onid oeddent yn gwneud iawn am gyfnod o absenoldeb o’r gwaith. 

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni