Yna cânt eu dal yn y Cynllun lle byddant yn cael eu hadolygu bob blwyddyn a’u halinio gyda chostau byw, hyd nes y dechreuir eu talu. Yn aml, gelwir y buddion hyn yn fuddion gohiriedig. Cewch ragor o wybodaeth am y ffordd y cyfrifir eich buddion gohiriedig bob blwyddyn, fel ag y mae ar 31 Mawrth, ar y dudalen hon. 

Bob blwyddyn, byddwn yn rhoi datganiad i chi yn dangos gwerth eich buddion gohiriedig ar y pryd. Mae’r ffordd y cyfrifir eich buddion gohiriedig yn dibynnu ar hyd y cyfnod(au) yr ydych wedi cronni eich pensiwn.  

Bydd unrhyw bensiwn a gronnwyd yn y cynllun o 1 Ebrill 2014 yn seiliedig ar Gyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio. Ewch i’r adran ‘Sut y mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio’ am ragor o wybodaeth. 

Beth os ydw i’n ailymuno â’r Cynllun neu gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall (e.e. y GIG, Athrawon, Gwasanaeth Sifil) yn rhywle arall, yn nes ymlaen? 

Os ydych yn ailymuno â’r CPLlL byddwch yn dechrau cronni aelodaeth tuag at gyfres newydd o fuddion, yn ychwanegol at eich buddion gohiriedig. 

Os ydych yn ailymuno â chynllun pensiwn sector cyhoeddus arall o fewn 5 mlynedd, bydd eich aelodaeth ohiriedig yn gysylltiedig â’ch aelodaeth newydd. Fel arfer, cewch ddewis cadw’r ddwy gyfres o fuddion hyn ar wahân ac mae gennych 12 mis o’r dyddiad yr ydych yn ailymuno, i ddewis eu cadw ar wahân. 

Beth sy’n digwydd os ydw i’n ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol arall? 

Mae’n bosib trosglwyddo eich pensiwn CPLlL at drefniant pensiwn arall. Bydd eich cynllun newydd yn ‘cyfnewid’ gwerth eich buddion gohiriedig i brynu gwerth ychwanegol yn y cynllun newydd.  

Sut y caiff fy muddion gohiriedig eu cyfrifo?

Ar gyfer gwasanaeth er 1 Ebrill 2014

Ar gyfer pob cyflogaeth bydd gennych Gyfrif Pensiwn. Y cyfrif hwn fydd yn dal y pensiwn yr ydych yn ei gronni yn y Cynllun. 

Bydd eich pensiwn blynyddol, a fydd yn cael ei ychwanegu at eich Cyfrif Pensiwn, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio eich cyflog pensiynadwy bob blwyddyn fel ag y mae ar 31 Mawrth. 

Bob blwyddyn, byddwch yn cronni pensiwn sy’n 1/49 o’ch cyflog pensiynadwy ar gyfer y flwyddyn honno. Bob blwyddyn ganlynol, bydd y pensiwn yn eich Cyfrif Pensiwn yn cael ei addasu yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Gweler ‘Sut y mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio' am ragor o wybodaeth. 

 

Ar gyfer gwasanaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014

Os oeddech wedi ymuno â’r Cynllun am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl y dyddiad yma (ond cyn 1 Ebrill 2014), cyfrifir eich buddion fel a ganlyn: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth ÷ 60 

Gallwch gymryd rhan o’ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth, ond bydd yn rhaid i chi ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn gwneud hyn. 

Ar gyfer gwasanaeth cyn 1 Ebrill 2008

Os oes gennych aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008, cyfrifir y buddion yr ydych wedi eu hennill cyn 1 Ebrill 2008 fel a ganlyn: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth ÷ 80 

Cyfandaliad = pensiwn x 3 

Gallwch ddewis ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad mwy o faint. 

Os oes gennych aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008 ac ar ôl y dyddiad hwn, bydd swm y ddau bensiwn a chyfandaliad di-dreth yn cael eu cyfuno er mwyn rhoi cyfanswm eich buddion. 

Beth os ydw i’n gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor yn unig?

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig, y cyflog a ddefnyddir i gyfrifo eich buddion ar gyfer aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014 fydd eich cyfradd cyfwerth ag amser llawn. 

Bydd eich aelodaeth yn gymesur, ar sail yr oriau gwirioneddol yr ydych wedi eu gweithio. 

Ar gyfer aelodaeth ar ôl 1 Ebrill 2014 bydd eich cyfrif pensiwn yn seiliedig ar y cyflog gwirioneddol y tynnwyd eich cyfraniadau pensiwn ohono. 

Enghraifft i ddangos sut y caiff fy muddion gohiriedig eu cyfrifo os ydw i’n gweithio’n llawn-amser  

Mae Bob yn ennill £20,000 y flwyddyn fel ag y mae fis Ebrill 2014. 

Mae Bob wedi cronni 20 mlynedd o aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014 a  bydd yn cronni 7 mlynedd arall o aelodaeth yn y Cynllun cyn iddo ymddeol. 

Ar gyfer gwasanaeth o 1 Ebrill 2014: 

Blwyddyn Cyflog pensiynadwy Pensiwn a enillodd Dygwyd ymlaen  Gwerth wedi’i adbrisio 
2014/15 £20,000 £408.16 £0 £413.06
2015/16 £20,400 £416.32 £413.06 £828.56
2016/17 £20,808 £424.65 £828.56 £1,265.74
2017/18 £21,224 £433.14 £1,265.74 £1,749.85
2018/19 £21,648 £441.80 £1,749.85 £2,244.25
2019/20 £22,081 £450.63 £2,244.25 £2,740.69
2020/21 £22,523 £459.65 £2,740.69 £3,200.34
Nodwch 

Mae’r enghraifft uchod yn seiliedig ar adbrisiad gwirioneddol ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2014/15 a 2019/20.  Tybir y bydd ei gyflog yn codi 2% bob blwyddyn trwy gydol y cyfnod. 

Ar gyfer aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth x 1/60 

Pensiwn = £22,523 x 6 ÷ 60 = £2,252.30 y flwyddyn 

Ar gyfer aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth x 1/80 

Pensiwn = £22,523 x 14 ÷ 80 = £3,941.53 y flwyddyn 

Cyfandaliad = £3,941.53 x 3 = £11,824.58 

Felly bydd cyfanswm buddion Bob fel a ganlyn: 

Pensiwn = £9,394.17 y flwyddyn (£3,200.34 + £3,941.53 + £2,252.30) 

Cyfandaliad = £11,824.58 

Gall Bob hefyd ddewis ildio rhywfaint o’i bensiwn er mwyn cael cyfandaliad sydd hyd yn oed yn fwy.  

Beth os ydw i’n gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig? 

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig y cyflog a ddefnyddir i gyfrifo’ch buddion ar gyfer aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014 fydd eich cyfradd cyfwerth ag amser llawn. Bydd eich aelodaeth yn gymesur, ar sail yr oriau gwirioneddol yr ydych wedi eu gweithio. Ar gyfer aelodaeth ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl y dyddiad hwn, bydd eich cyfrif pensiwn yn seiliedig ar y cyflog gwirioneddol y tynnwyd eich cyfraniadau pensiwn allan ohono. 

Enghraifft i ddangos sut y mae fy muddion yn cael eu cyfrifo os ydw i’n gweithio’n rhan-amser 

Mae Sue yn gweithio’n rhan-amser ac yn ennill £10,000 y flwyddyn, fel ag y mae ym mis Ebrill 2014, a’i chyflog cyfwerth ag amser llawn yw £20,000. 

Mae wedi gweithio am 20 mlynedd cyn 1 Ebrill 2014 a bydd yn gweithio am 7 mlynedd arall cyn iddi ymddeol. 

Mae Sue wedi gweithio hanner oriau cydweithiwr llawn-amser erioed, ac felly ei haelodaeth a ddefnyddir i gyfrifo’i buddion adeg ymddeol, fydd 7 mlynedd cyn 1 Ebrill 2008 a 3 blynedd ar ôl 1 Ebrill 2008. 

Ar gyfer aelodaeth er 1 Ebrill 2014: 

Blwyddyn  Cyflog pensiynadwy Pensiwn a enillodd Dygwyd ymlaen  Gwerth wedi’i adbrisio
2014/15 £10,000 £204.08 £0 £206.53
2015/16 £10,200 £208.16 £206.53 £414.28
2016/17 £10,404 £212.33 £414.28 £632.88
2017/18 £10,612 £216.57 £632.87 £874.93
2018/19 £10,824 £220.90 £874.93 £1,122.12
2019/20 £11,040 £225.31 £1,122.12 £1,370.34
2020/21 £11,261 £229.82 £1,370.34 £1,600.15
Nodwch 

Mae’r enghraifft uchod yn seiliedig ar adbrisiad gwirioneddol ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2014/15 a 2019/20.  Tybir y bydd ei gyflog yn codi 2% bob blwyddyn trwy gydol y cyfnod. 

 

Ar gyfer aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014: 

Pensiwn = cyflog terfynol (cyfwerth ag amser llawn) x aelodaeth (yn gymesur ag oriau rhan-amser) x 1/60 

Pensiwn = £22,523 x 3 ÷ 60 = £1,126.15 y flwyddyn 

Ar gyfer yr aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008: 

Pensiwn = cyflog terfynol (cyfwerth ag amser llawn) x aelodaeth (yn gymesur ag oriau rhan-amser) x 1/80 

Pensiwn = £22,523 (cyfwerth ag amser llawn) x 7 ÷ 80 = £1,970.76 y flwyddyn 

Cyfandaliad = pensiwn blynyddol x 3 

Cyfandaliad = £1,970.76 x 3 = £5,912.29 

Felly bydd cyfanswm buddion Sue fel a ganlyn: 

Pensiwn = £4,697.07 y flwyddyn (£1,600.15 + £1,970.76 + £1,126.15) 

Cyfandaliad = £5,912.29 

Gall Sue ddewis ildio rhywfaint o’i phensiwn hefyd er mwyn derbyn cyfandaliad sydd hyd yn oed yn fwy.  

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni