Cyfandaliad grant marwolaeth  

Os digwydd i chi farw cyn i chi gymryd eich buddion gohiriedig, efallai y bydd hawl gan eich perthynas agosaf i’r cyfandaliad grant marwolaeth. 

Os oeddech wedi gadael cyn 1 Ebrill 2008, telir cyfandaliad sydd 3 gwaith eich pensiwn gohiriedig. 

Os oeddech wedi gadael ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl y dyddiad yma, telir cyfandaliad sydd 5 gwaith eich pensiwn gohiriedig. 

Gallwch ddweud wrthym i bwy yr hoffech i ni dalu’r cyfandaliad grant marwolaeth trwy ddefnyddio’r ffurflen Mynegi Dymuniad yn yr adran ‘Adnoddau’. 

Ni sy’n penderfynu’n derfynol pwy i dalu’r cyfandaliad iddynt. Cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw ddymuniadau yr ydych wedi eu mynegi, ond ni fyddwn yn rhwym wrthynt. 

Pensiwn i oroeswyr 

Os digwydd i chi farw cyn cymryd eich buddion gohiriedig, byddwn yn talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu eich partner sy’n cydfyw â chi a’ch plant dibynnol. 

Os hoffech i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn iddynt fodloni meini prawf penodol. 

Mae pensiynau plant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth. 

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth. 

Cyfrifo swm y pensiwn i oroeswyr 

Ar gyfer eich gŵr neu wraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi:  

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael. 

Nodwch 

Dim ond eich aelodaeth er 6 Ebrill 1988 a ddefnyddir ar gyfer partneriaid sy’n cydfyw, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau ychwanegol ar gyfer buddion i oroeswyr er mwyn ymestyn y ddarpariaeth hon i gynnwys cyfnodau cynharach o’ch aelodaeth yn y Cynllun. 

Ar gyfer eich plant dibynnol

Sylwer, os oes mwy nag un plentyn dibynnol, yna byddant yn rhannu’r pensiwn yn gyfartal. Fel arfer, telir pensiynau plant hyd nes iddynt gyrraedd 18, neu 23 oed os ydynt yn dal i fod mewn addysg lawn-amser.

Pensiwn i un plentyn, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/320 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.  

Pensiwn i un plentyn, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/240 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.   

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.  

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi a enwebwyd

1/120 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.  

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni