Direct.gov
Gwybodaeth gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ar-lein.
Adran Gwaith a Phensiynau
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn sicrhau y telir y dreth gywir ar yr adeg iawn.
HelpwrArian
Mae HelpwrArian yn dod â chanllawiau yn ymwneud ag arian a phensiynau at ei gilydd fel ei bod yn haws ac yn gyflymach dod o hyd i’r cymorth iawn. Mae’n dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr canllawiau ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, at ei gilydd mewn un man: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
Mae adnoddau rhad ac am ddim fel HelpwrArian neu wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn wych. Gallant eich helpu i feithrin eich gwybodaeth am bensiynau a’ch tywys trwy’r materion pwysig yr ydych yn eu hwynebu wrth i chi ymddeol. Yn hytrach na rhoi arweiniad cyffredinol i chi, bydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn edrych ar eich amgylchiadau unigol, eich sefyllfa ariannol a’ch nod wedi ymddeol, ac yn cynnig argymhelliad sy’n benodol i’ch sefyllfa bersonol chi. Ni fydd pob un eisiau talu am wasanaeth Cynghorydd Ariannol Annibynnol, ond os ydych yn dymuno talu, yna mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio un sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Os oes arnoch angen cyngor am drosglwyddo eich cynilion pensiwn, dylech siarad â Chynghorydd Ariannol Annibynnol sydd â chymhwyster yn y maes hwn.
Gallwch ddod o hyd i Gynghorydd Ariannol Annibynnol lleol sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, trwy ddefnyddio teclyn o’r enw ‘Darganfod ymgynghorydd ymddeoliad’ sydd ar gael gan HelpwrArian.
Y Gwasanaeth Pensiwn
Am wybodaeth am bensiynau’r wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch ddarganfod ar ba oed y gallwch hawlio pensiwn y wladwriaeth.
Y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Os oeddech yn aelod o gynllun arall yn y gorffennol, ac rydych wedi colli cysylltiad â nhw, yna dylai’r corff canolog hwn fod yn gallu eich helpu i ddod o hyd iddynt.
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn wylgi pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn iawn. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau rhag twyll. Gall unrhyw un sy’n pryderu am gynllun ‘chwythu’r chwiban’ wrth y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Yr Ombwdsmon Pensiynau
Sefydlwyd yr Ombwdsmon Pensiynau o dan y Ddeddf Pensiynau, ac mae’n gallu ymchwilio i unrhyw gŵyn neu anghydfod neu ffaith gyfreithiol sy’n ymwneud â’ch cynllun pensiwn, a’u pennu.