Pam ddylwn i ymuno?

Os ydych yn gallu ymuno, yna mae’n rhan werthfawr o’ch pecyn cyflog a thâl.

Isod, manylir ar rai o’r rhesymau pam y gallech fod eisiau ymuno a cheir atebion i gwestiynau cyffredin.

Buddion sicr

  • Mae’r Cynllun yn gwarantu eich incwm yn y dyfodol.
  • Yn wahanol i rai o’r cynlluniau, nid yw prisiau cyfranddaliadau a newidiadau yn y farchnad stoc yn effeithio ar eich pensiwn.
  • Unwaith y byddwch yn cymryd eich pensiwn, bydd yn codi yn unol â chwyddiant, gan eich diogelu rhag cynnydd mewn prisiau. Yn achos prin datchwyddiant, ni fyddai’ch pensiwn yn lleihau. Byddai’n parhau ar ei lefel bresennol.

Cost isel i chi

  • Mae eich cyflogwr yn talu symiau sylweddol o arian i mewn i’r Cynllun.
  • Gallwch gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau – gan gynnwys symiau ychwanegol yr ydych yn eu talu i mewn i ychwanegu at eich buddion.
  • Gallwch gymryd cyfandaliad wrth i chi ymddeol, ac yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd gofyn i chi dalu treth ar y swm hwn.
  • Nid oes unrhyw ffioedd na thaliadau cudd – yn syml, rydych yn talu canran o’ch cyflog.

Buddion i chi a’ch anwyliaid

  • Cewch eich diogelu rhag ofn i chi orfod cymryd eich buddion yn gynnar oherwydd salwch.
  • Pensiynau i ddibynyddion sy’n goroesi, os digwydd i chi farw.
  • Yswiriant bywyd sydd gywerth â thair blynedd o gyflog gwirioneddol – o’r eiliad yr ymunwch chi.

Cwestiynau cyffredin

Pwy sy’n gallu ymuno?

Gallwch ymuno os ydych:

  • yn iau na 75 oed, ac
  • yn gweithio i gyflogwr sy’n caniatáu i chi ymuno â’r Cynllun.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogeion sy’n cael ymuno, yn ymuno â’r cynllun yn awtomatig. Os oes gennych gontract cyflogaeth am lai na 3 mis, bydd gofyn i chi ddewis ymuno â’r cynllun gan nad yw eich aelodaeth yn awtomatig.

Sut ydw i’n ymuno?

Ddim yn aelod?

Os nad ydych yn aelod yn barod, ac rydych yn dymuno ymuno, cysylltwch â’ch cyflogwr gan ddefnyddio’r ffurflen optio i mewn yn yr adran adnoddau.

Os nad ydych yn aelod yn barod ond mae pethau’n newid ac rydych yn dod i fodloni’r meini prawf ar gyfer cofrestru’n awtomatig, yna byddwch yn ymuno’n awtomatig â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o’r cyfnod cyflog sy’n rhychwantu’r adeg y mae hyn yn digwydd.

Neu, os ydych wedi optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y gorffennol, gallwch ailgofrestru gyda’r Cynllun unwaith eto yn y dyfodol.

Sut ydw i’n gwybod os ydw i wedi ymuno yn barod?

Edrychwch ar eich slip cyflog i weld a ydych yn talu i mewn. Os nad ydych yn talu i mewn cysylltwch â’ch cyflogwr i weld a allwch chi ymuno.

Beth os ydw i’n aelod o gynllun pensiwn arall yn barod?

Gallwch hefyd fod yn aelod o’r Cynllun os ydych eisoes yn cyfrannu at drefniant pensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol.

A allaf gael fy nghyfraniadau yn ôl os ydw i’n gadael y Cynllun?

Telir ad-daliad awtomatig os ydych yn optio allan o fewn 3 mis.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad os oes gennych aelodaeth o lai na 2 flynedd, nid ydych yn aelod o unrhyw Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall ac nid ydych wedi trosglwyddo buddion i mewn o gynllun arall.

Dim ond eich cyfraniadau chi eich hun y gellir eu had-dalu, ac nid y cyfraniadau a dalwyd gan eich cyflogwr. Tynnir swm o’ch cyfrif i wneud iawn am y rhyddhad treth ac, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ‘deall pensiynau’.

Deall pensiynau