Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt ar y dudalen hon) yn cyflwyno’r telerau ar gyfer www.gwentpensionfund.org (ein gwefan) ac rydych yn defnyddio’r wefan hon o dan y telerau hyn. Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’r wefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gadw atynt. Os nad ydych yn cytuno i’r telerau hyn, yna peidiwch â defnyddio ein gwefan.

Gwybodaeth amdanom ni

Hymans Robertson LLP (“Ni”) sy’ gweithredu’r wefan hon. Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ydym, ac rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru LLP OC310282. Mae ein swyddfa gofrestredig yn One London Wall, London EC2Y 5EA.

Defnyddio’n gwefan

Caniateir mynediad dros dro i'n gwefan, ac rydym yn cadw'r hawl i dynnu'n ôl neu ddiwygio’r gwasanaeth a ddarparwn ar ein gwefan heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os nad yw ein safle ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod, am unrhyw reswm.

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu ar fynediad defnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni, i rannau o’n gwefan, neu ein gwefan gyfan.

Wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’n polisi defnydd derbyniol.

Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sy’n angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i’n gwefan.  Chi sydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cael mynediad i’n gwefan trwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd, yn gwybod am y telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Hawliau eiddo deallusol

Ni yw perchennog neu drwyddedai yr holl hawliau eiddo deallusol ar ein gwefan, ac yn y deunyddiau a gyhoeddir ar ein gwefan.  Diogelir y gweithiau hynny trwy gyfreithiau a chytuniadau hawlfraint  ar draws y byd.  Cedwir pob hawl o’r fath.

Cewch argraffu copïau o unrhyw dudalen(nau) ar ein gwefan, a lawrlwytho darnau ohonynt, er mwyn cyfeirio atynt yn bersonol, a gallwch dynnu sylw unrhyw un arall yn eich sefydliad at ddeunyddiau ar ein gwefan. 

Ni ddylech newid y copïau papur neu’r copïau digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu hargraffu neu lawrlwytho oddi ar ein gwefan, mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, fideos na dilyniannau sain nac unrhyw raffeg, ar wahân i’r testun sy’n dod gyda nhw.

Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr eraill a nodwyd) fel awduron y deunydd ar ein gwefan, bob tro.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol, heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu’r sawl sydd wedi ein trwyddedu ni.

Os ydych yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan mewn ffordd sy’n torri’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, ar ein hopsiwn ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi eu gwneud.

Dibyniaeth ar y wybodaeth ar ein gwefan

Ni fwriedir i’r sylwadau, y data a’r deunyddiau eraill ar ein gwefan fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno.  Rydym felly’n ymwadu â’r holl atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw un sy’n ymweld â’n gwefan, neu gan unrhyw un a allai gael gwybod am unrhyw gynnwys sydd arni.

Rydych yn derbyn bod unrhyw offeryn modelu yn defnyddio rhagdybiaethau generig ac nad yw’n ystyried eich amgylchiadau ariannol personol chi, ac felly na ddylech ddibynnu arno.  Rydych yn cydnabod bod unrhyw offeryn modelu at ddibenion enghreifftiol yn unig ac na ddylai gymryd lle cyngor ariannol annibynnol. Dangosir y rhagdybiaethau hyn ar y wefan hon.

Mae ein gwefan yn newid yn rheolaidd

Ein nod yw diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, a gallem newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os yw’r angen yn codi, gallem atal mynediad at ein gwefan, neu ei chau am gyfnod amhenodol. Gallai unrhyw ddeunydd ar ein gwefan fod yn hen ar unrhyw adeg, ac nid oes rhwymedigaeth arnom i ddiweddaru deunyddiau o’r fath.

Ein hatebolrwydd

Darperir y deunyddiau a ddangosir ar ein gwefan heb unrhyw warant, amod na sicrwydd ynghylch eu cywirdeb. I’r graddau a ganiateir yn gyfreithiol, rydym ni, aelodau eraill ein grŵp o gwmnïau a phob trydydd parti sy’n gysylltiedig â ni, yn eithrio yn unig swydd trwy hyn:

Bob amod, sicrwydd ac unrhyw delerau eraill a allai gael eu hymhlygu fel arall trwy statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.

Unrhyw atebolrwydd dros unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol a ddaeth i ran unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n gwefan neu mewn cysylltiad â defnyddio ein gwefan, neu unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi, ac unrhyw ddeunyddiau sydd arni, neu fethiant i ddefnyddio’r rhain neu yn ganlyniad i’r defnydd ohonynt, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd dros:

  • golli incwm neu refeniw;
  • colli busnes;
  • colli elw neu gontractau;
  • colli cynilion a ragwelwyd;
  • colli data;
  • colli ewyllys da;
  • gwastraffu amser rheoli neu swyddfa; ac
  • unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, waeth sut y cododd a waeth a gododd oherwydd camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os oedd modd ei ragweld.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd dros farwolaeth neu anaf personol sy’n codi oherwydd ein hesgeulustod, na’n hatebolrwydd dros gamliwio twyllodrus neu gamliwio mewn perthynas â mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan y gyfraith sy’n berthnasol.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno firysau, cludwyr Trojan, mwydod, bomiau amser nac unrhyw ddeunyddiau eraill sy’n faleisus neu'n gallu gwneud niwed cyfrifiadurol.  Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i'n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi'i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â'n safle. Ni ddylech ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwasgaredig ar wrthod gwasanaeth.

Trwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn dweud wrth yr awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol am unrhyw achos o'r fath a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddweud wrthynt pwy ydych chi. Os bydd achos o’r fath yn codi, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan drawiad gwrthod gwasanaeth, firysau neu ddeunyddiau eraill sy'n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunyddiau eraill sy'n briodol, am i chi ddefnyddio ein gwefan neu wefan yn un o’r dolenni ar ein gwefan, neu am i chi lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arno neu ar unrhyw wefan sydd yn ein dolenni.

Dolenni at ein gwefan

Cewch gynnwys dolen at ein Hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno. Ond rhaid i chi beidio â chynnwys dolen mewn ffordd sy’n awgrymu ein bod ni’n gysylltiedig, yn cymeradwyo neu’n ardystio mewn unrhyw ffordd os nad yw hynny’n wir.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen o unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar unrhyw wefan arall ac ni chewch greu dolen at unrhyw ran o’n gwefan ac eithrio’r Hafan. Cadwn yr hawl i dynnu’r hawl i gynnwys dolenni yn ôl, heb rybudd. Rhaid bod y wefan yr ydych yn cysylltu ohoni yn cydymffurfio ymhob ffordd â’r safonau cynnwys a gyflwynir yn ein polisi defnydd derbyniol.

Dolenni o’n gwefan

Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hyn, ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb drostynt na thros unrhyw golled neu ddifrod a allai godi wrth i chi eu defnyddio.

Awdurdodaeth a’r gyfraith sy’n berthnasol

Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth neilltuedig dros unrhyw achos sy’n codi wedi i chi ymweld â’n gwefan, neu sy’n gysylltiedig ag ymweliad â’n gwefan. Serch hynny, cadwn yr hawl i ddwyn achos yn eich erbyn am dorri’r amodau hyn yn y wlad lle’r ydych yn byw neu yn unrhyw wlad berthnasol arall.  Llywodraethir y telerau hyn gan gyfraith Lloegr.