Unwaith y dechreuwch chi gael eich pensiwn, byddwn yn cysylltu â chi bob blwyddyn gyda manylion y cynnydd i’ch pensiwn. 

Os nad ydych wedi cael eich pensiwn am flwyddyn gyfan, byddwch yn cael cyfran o’r cynnydd blynyddol yn unig. 

Mae yna bosibilrwydd i chi ymddeol a chymryd eich buddion mor ifanc â *55 oed, neu hyd nes eich bod yn cyrraedd eich oedran ymddeol arferol, a hyd yn oed wedi hynny. Os ydych yn sâl, nid oes trothwy oedran ISAF o gwbl. 

Er mwyn i chi allu hawlio’ch buddion, rhaid eich bod wedi bod yn aelod am ddwy flynedd, o leiaf, neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn eraill i mewn i’r Cynllun. 

Gallwch hyd yn oed ymddeol yn raddol – mae yna ragor o wybodaeth am eich opsiynau ymddeol isod. 

Pryd y caf i ymddeol? 

Mae eich Oedran Pensiwn Arferol yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (a’r oed ieuengaf yw 65 oed). Eich Oedran Pensiwn Arferol yw’r oed y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn llawn. 

Gallwch wirio eich Oedran Pensiwn Arferol trwy edrych am eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yma. 

Mae yna reolau penodol ynghylch pob math o ymddeoliad, ac mae’r adran hon yn edrych ar yr opsiynau gwahanol ar gyfer ymddeol, a amlinellir isod. 

*Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yr oedran isaf arferol ar gyfer pensiwn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028.

Opsiynau ymddeol

Rhagor o wybodaeth am yr opsiynau ymddeol sydd ar gael i chi

Ymddeol yn gynnar

Gallwch ddewis ymddeol yn gynnar o 55 oed. Os ydych yn dewis ymddeol cyn eich Oedran Pensiwn Arferol, mae eich buddion yn debygol o fod yn llai oherwydd byddant yn cael eu talu’n gynharach ac am gyfnod hirach. 

Mae faint yn llai y bydd eich buddion yn dibynnu ar ba mor gynnar yr ydych yn ymddeol. 

Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno siarad am eich sefyllfa unigol. 

  Gostyngiad pensiwn(%)   Gostyngiad grant ymddeol(%)
Blynyddoedd cynnar Dynion Menywod Pob aelod
0 0 0 0
1 4.9 4.9 1.7
2 9.3 9.3 3.3
3 13.5 13.5 4.9
4 17.4 17.4 6.5
5 20.9 20.9 8.1
6 24.3 24.3 9.6
7 27.4 27.4 11.1
8 30.3 30.3 12.6
9 33.0 33.0 14.1
10 35.6 35.6 15.5
11 39.5 39.5 N/A
12 41.8 41.8 N/A
13 43.9 43.9 N/A
Enghraifft 

Mae Stan yn 64 oed ac yn penderfynu ymddeol. Ei Oedran Pensiwn Arferol yw 65. 

Dyma ei fuddion: 

Pensiwn = £4,000 y flwyddyn 

Cyfandaliad = £11,500 

Gan ei fod yn ymddeol 1 flwyddyn yn gynharach, mae’n cael llai o fuddion. 

Dyma’r buddion y bydd yn eu cael mewn  gwirionedd: 

Pensiwn = £3,804 y flwyddyn (4.9% yn llai) 

Cyfandaliad = £11,304.50(1.7% yn llai)  

Ymddeoliad hyblyg

O 55 oed, os ydych yn lleihau eich oriau neu’n symud i swydd is, efallai y gallwch ddechrau cael rhywfaint o’r buddion pensiwn y byddwch wedi eu cronni, neu’r cyfan ohonynt, er eich bod chi’n dal i weithio – a bydd hyn yn gymorth i chi ymddeol yn raddol. Gallwch barhau i gronni mwy o bensiwn yn y Cynllun. 

Rhaid i chi gael caniatâd eich cyflogwr er mwyn cymryd ymddeoliad hyblyg 

A fydd fy mhensiwn yn llai os ydw i’n cymryd ymddeoliad hyblyg? 

Os ydych yn cymryd ymddeoliad hyblyg cyn eich Oedran Pensiwn Arferol, efallai y bydd eich buddion yn llai, yn yr un modd â phetaech yn ymddeol yn gynnar. 

Os oes diddordeb gennych mewn ymddeoliad hyblyg, holwch eich cyflogwr i weld pa opsiynau y mae’n eu cynnig.  

Ymddeol yn gynnar trwy ddileu swydd neu effeithlonrwydd busnes

Os yw’ch cyflogwr yn dileu eich swydd neu’n rhoi ymddeoliad i chi er budd effeithlonrwydd busnes, ac rydych yn 55 neu’n hŷn, yna telir eich pensiwn i chi ar unwaith, heb ostyngiad.  

Ymddeol ar sail afiechyd

Mae’r Cynllun yn cynnig amddiffyniad i aelodau sy’n rhy sâl i weithio. 

Os oes rhaid i chi adael eich gwaith oherwydd salwch, waeth faint yw eich oedran, efallai y byddwch yn gallu cael eich pensiwn ar unwaith, os ydych yn bodloni amodau penodol. 

Pa fuddion allwn i eu cael? 

Efallai y cewch eich pensiwn ac unrhyw gyfandaliad, heb ostyngiadau am eich bod yn ymddeol yn gynnar, ar sail eich aelodaeth gyfredol ac unrhyw ychwanegiad fel y dangosir isod. 

Mae swm yr ychwanegiad yn dibynnu ar ba mor debygol yr ydych chi i allu gweithio mewn swydd gyflogedig yn y dyfodol. 

Os ydych wedi lleihau eich oriau oherwydd eich salwch, yn union cyn ymddeol ar sail afiechyd, gellir seilio’ch ychwanegiad ar eich sefyllfa cyn i chi leihau eich oriau. 

Dyma’r lefelau buddion gwahanol: 

Haen 1 – Nid oes posibilrwydd y gallech gael swydd gyflogedig yn y tymor byr neu cyn cyrraedd Oedran Pensiwn Arferol. 

Bydd eich pensiwn yn seiliedig ar eich aelodaeth gyfredol ac unrhyw ychwanegiad i wneud iawn am yr hyn y byddech wedi ei gronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol, petaech chi wedi parhau i fod yn y Cynllun tan hynny. 

Haen 2 – Nid oes posibilrwydd y gallech gael swydd gyflogedig yn y tymor byr ond mae yna bosibilrwydd y gallech gael swydd gyflogedig cyn eich Oedran Pensiwn Arferol. 

Bydd eich pensiwn yn seiliedig ar eich aelodaeth gyfredol a 25% o’r ychwanegiad i wneud iawn am yr hyn y byddech wedi ei gronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol petaech chi wedi aros yn y Cynllun tan hynny. 

Haen 3 – Posibilrwydd o gael swydd gyflogedig o fewn tair blynedd i adael. 

Bydd eich pensiwn yn seiliedig ar eich aelodaeth gyfredol yn unig. Telir eich pensiwn am gyfnod cyfyngedig yn unig a chaiff ei adolygu ymhen 18 mis. 

Enghreifftiau o ymddeoliad ar sail afiechyd 

Enghraifft 1 

Mae Lisa ar fin ymddeol ar sail afiechyd. 

Mae’n 45 oed, ac felly mae ganddi 22 mlynedd arall cyn cyrraedd ei Hoedran Pensiwn Arferol (sy’n 67 ar hyn o bryd). 

NID oes posibilrwydd y caiff swydd gyflogedig cyn cyrraedd ei Hoedran Pensiwn Arferol. Felly, mae’n ymddeol o dan delerau Haen 1. 

Bydd ei buddion yn seiliedig ar unrhyw aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014, ynghyd â’r gwerth yn ei chyfrif pensiwn gydag ychwanegiad i wneud iawn am y pensiwn y byddai wedi ei gronni hyd nes cyrraedd 67 oed. 

Enghraifft 2 

Mae Donna ar fin ymddeol ar sail afiechyd. Mae’n 45 oed, ac felly mae ganddi 22 mlynedd arall cyn cyrraedd ei Hoedran Pensiwn Arferol (sy’n 67 ar hyn o bryd). 

NID oes posibilrwydd iddi gael swydd gyflogedig yn y tymor byr, ond MAE yna bosibilrwydd y gallai gael swydd gyflogedig cyn cyrraedd ei Hoedran Pensiwn Arferol. 

Felly, mae’n ymddeol o dan delerau Haen 2. 

Yn yr achos hwn, mae ei hychwanegiad yn 25% o’r aelodaeth y byddai wedi ei chronni erbyn cyrraedd 67 oed. 

Aelodaeth gyfredol: 20 mlynedd 

Aelodaeth y byddai wedi ei chronni hyd nes cyrraedd 67 oed petai wedi parhau i weithio x 25%: 5.5 mlynedd 

Ymddeol ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol

Os ydych yn parhau i weithio ar ôl cyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol, byddwch yn parhau i dalu i mewn i’r Cynllun, gan gronni mwy o bensiwn. 

Gallwch gymryd eich pensiwn: 

  • wedi i chi ymddeol, neu 

  • wedi i chi gyrraedd noswyl eich pen-blwydd yn 75 oed, neu 

  • wedi i chi gael caniatâd eich cyflogwr i gymryd ymddeoliad hyblyg, pa un bynnag sy’n digwydd yn gyntaf. 

Os ydych yn cymryd eich buddion ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol, yna yn ogystal â’r aelodaeth ychwanegol y byddwch yn ei chronni yn y Cynllun, gallech gael mwy o bensiwn oherwydd mae’n dechrau yn hwyrach na’r disgwyl.  

Cymryd cyfandaliad

Wrth i chi ymddeol, gallwch gymryd cyfran o’ch pensiwn fel cyfandaliad. 

Fel arfer telir y swm hwn yn ddi-dreth. 

  • Os oeddech yn aelod o’r Cynllun cyn 1 Ebrill 2008 cewch gyfandaliad yn awtomatig. 

  • Os ydych wedi ymuno ar ôl 1 Ebrill 2008 nid yw’r Cynllun yn darparu cyfandaliad yn awtomatig mwyach, ond gallwch ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad. 

Os ydych yn dymuno cymryd cyfandaliad neu gynyddu maint eich cyfandaliad, rhaid i chi ildio £1 o’ch pensiwn i ennill cyfandaliad o £12 

Enghraifft 

Wrth i Jane ymddeol, mae wedi cronni’r buddion canlynol: 

Pensiwn = £6,667 y flwyddyn 

Os ydy Jane eisiau cymryd cyfandaliad o £20,000 bydd gofyn iddi ildio £1,667 o’i phensiwn. 

Cyfandaliad ÷ 12 = swm y pensiwn y bydd gofyn i chi ei ildio. 

Dyma fydd ei buddion: 

Pensiwn = £5,000 y flwyddyn, Cyfandaliad o = £20,004 

Nodwch 

Rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn dymuno ildio cyfran o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad, cyn i chi ymddeol.  

Sut y caiff fy muddion eu cyfrifo?

Ar gyfer gwasanaeth er 1 Ebrill 2014

Bydd unrhyw bensiwn a gronnir yn y cynllun er 1 Ebrill 2014 ar sail cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio. Ewch i “Sut y mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio" am ragor o wybodaeth. 

O 1 Ebrill 2014 byddwch yn cronni pensiwn o 1/49 o’ch cyflog pensiynadwy bob Blwyddyn Gynllun a bydd y swm yma’n cael ei ychwanegu at eich Cyfrif Pensiwn. 

Caiff y pensiwn yn eich Cyfrif Pensiwn ei adbrisio bob blwyddyn fel ei fod yn alinio â gyda chostau byw – a fesurir ar hyn o bryd gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). 

Os oes gennych fwy nag un swydd yn y CPLlL, yna bydd gennych fwy nag un Cronfa Bensiwn – un ar gyfer pob swydd sydd gennych. 

Ar gyfer unrhyw gyfnod y byddwch yn yr adran 50/50, bydd y pensiwn y byddwch yn ei gronni yn hanner eich cyfradd arferol.  

Ar gyfer Gwasanaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014

Bydd unrhyw bensiwn a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2014 yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio eich cyflog terfynol a’ch aelodaeth. 

Os oeddech wedi ymuno â’r Cynllun am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl y dyddiad hwn, cyfrifir eich buddion fel a ganlyn: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth ÷ 60 

Gallwch gymryd cyfran o’ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth, ond bydd yn rhaid i chi ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn gwneud hyn.  

Ar gyfer Gwasanaeth cyn 1 Ebrill 2008

Cyfrifir unrhyw bensiwn a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2014 gan ddefnyddio eich cyflog terfynol a’ch aelodaeth. 

Os oeddech yn aelod cyn 1 Ebrill 2008, cyfrifir y buddion yr oeddech wedi eu hennill cyn 1 Ebrill 2008 fel a ganlyn: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth ÷ 80 

Cyfandaliad = pensiwn x 3 

Gallwch ddewis ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad mwy o faint. 

Os oes gennych aelodaeth cyn ac ar ôl 1 Ebrill 2008, bydd y ddau swm pensiwn a’r cyfandaliad di-dreth yn cael eu cyfuno i roi cyfanswm eich buddion.  

Enghraifft i ddangos sut y mae fy muddion yn cael eu cyfrifo os ydw i’n gweithio’n llawn-amser 

Mae Bob yn ennill £20,000 y flwyddyn fel ag y mae ym mis Ebrill 2014. 

Mae Bob wedi cronni 20 mlynedd o aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014 a bydd yn cronni 9 mlynedd arall o aelodaeth yn y Cynllun cyn iddo ymddeol. 

Ar gyfer aelodaeth er 1 Ebrill 2014: 

Blwyddyn   Cyflog pensiynadwy Pensiwn a enillodd Dygwyd ymlaen   Gwerth wedi’i adbrisio
2014/15 £20,000 £408.16 £0 £413.06
2015/16 £20,400 £416.33 £413.06 £828.56
2016/17 £20,808 £424.65 £828.56 £1,265.75
2017/18 £21,224 £433.14 £1,265.75 £1,749.85
2018/19 £21,648 £441.80 £1,749.85 £2,244.25
2019/20 £22,081 £450.63 £2,244.25 £2,740.69
2020/21 £22,523 £459.65 £2,470.69 £3,200.34
2021/22 £22973 £468.85 £3216.38 £3799.48
2022/23 £23433 £478.23 £3799.48 *£4709.67
2023/24 £23901 £487.78 £4709.67 £5545.68

 

*O 2023/24 ymlaen, bu ailbrisio yn effeithiol ar 6 Ebrill

Mae’r golofn ‘Gwerth wedi’i adbrisio”’ yn seiliedig ar adbrisiad gwirioneddol ar gyfer y blynyddoedd ariannol o 2014/15 i 2022/23. Tybir y bydd ei gyflog yn codi 2% bob blwyddyn trwy gydol y cyfnod. 

Felly, mae’r pensiwn ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 1 Ebrill 2024 yn £5545.68 y flwyddyn. 

Aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth x 1/60 

Pensiwn = £23901 x 6 ÷ 60 = £2390.10 y flwyddyn 

Ar gyfer aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008: 

Pensiwn = cyflog terfynol x aelodaeth x 1/80 

Pensiwn = £23901 x 14 ÷ 80 = £4,182.68 y flwyddyn 

Cyfandaliad = £4,182.68 x 3 = £12,548.03

Felly cyfanswm buddion Bob fydd: 

Pensiwn = £12118.46 a year (£5545.68 + £2390.10 + £4182.68)

Cyfandaliad = £12,548.03

Gall Bob ddewis ildio rhywfaint o’i bensiwn hefyd, er mwyn cael cyfandaliad mwy o faint.  

Enghraifft i ddangos sut y mae fy muddion yn cael eu cyfrifo os ydw i’n gweithio’n rhan-amser 

Mae Sue yn gweithio’n rhan-amser ac yn ennill £10,000 y flwyddyn, fel ag y mae ym mis Ebrill 2014, a’i chyflog cyfwerth ag amser llawn yw £20,000. 

Mae wedi gweithio am 20 mlynedd cyn 1 Ebrill 2014 a bydd yn gweithio am 9 mlynedd arall cyn iddi ymddeol. 

Mae Sue wedi gweithio hanner yr oriau y mae ei chydweithiwr llawn-amser yn eu gweithio erioed, ac felly ei haelodaeth, a ddefnyddir i gyfrifo’i buddion wrth ymddeol, fydd 7 mlynedd cyn 1 Ebrill 2008 a 3 blynedd ar ôl 1 Ebrill 2008. 

Ar gyfer aelodaeth o 1 Ebrill 2014: 

Blwyddyn Cyflog pensiynadwy Pensiwn a enillodd Dygwyd ymlaen   Gwerth wedi’i adbrisio
2014/15 £10,000 £204.08 £0 £206.53
2015/16 £10,200 £208.16 £206.53 £414.28
2016/17 £10,404 £212.33 £414.28 £632.87
2017/18 £10,612 £216.57 £632.87 £874.93
2018/19 £10,824 £220.90 £874.93 £1,122.12
2019/20 £11,040 £225.31 £1,122.12 £1,347.43
2020/21 £11,261 £229.82 £1,347.43 £1,600.15
2021/22 £11486 £234.43 £1,608.19 £1,899.74
2022/23 £11716 £239.11 £1,899.74 *£2,354.88
2023/24 £11950 £243.88 £2354.80 £2772.79

 

*O 2023/24 ymlaen, bu ailbrisio yn effeithiol ar 6 Ebrill

Mae'r golofn 'gwerth wedi'i hailbrisio' yn seiliedig ar ailbrisio gwirioneddol ar gyfer blynyddoedd ariannol o 2014/15 i 2022/23. Tybir y bydd ei gyflog yn cynyddu 2% bob blwyddyn drwyddi draw.

Felly y pensiwn ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2014 a 1 Ebrill 2023 yw £2,772.79 y flwyddyn.

Ar gyfer yr aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014:

Pensiwn = cyflog terfynol (cyfwerth ag amser llawn) x aelodaeth (sy'n gymesur ag oriau rhan amser) x 1/60

Pensiwn = £23,901 x 3 ÷ 60 = £1,195.05 y flwyddyn

Ar gyfer yr aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008: 

Pensiwn = cyflog terfynol (cyfwerth ag amser llawn) x aelodaeth (yn gymesur ag oriau rhan-amser) x 1/80 

Pensiwn = £23,901(cyfwerth amser llawn) x 7 ÷ 80 = £2,091.34 y flwyddyn 

Cyfandaliad = pensiwn blynyddol x 3 

Cyfandaliad = £2,091.34 x 3 = £6,274.01

Felly dyma fydd cyfanswm buddion Sue: 

Pensiwn = £6069.18 y flwyddyn (£2772.79 + £2091.34 + £1195.05)

Cyfandaliad = £6274.01

Gall Sue hefyd ddewis ildio rhywfaint o’i phensiwn er mwyn cael cyfandaliad mwy o faint.  

 

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni