Rhwymedi McCloud

Does ddim angen i chi gysylltu â ni. Mi fyddwn yn cysylltu ag unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan y newidiad yn y rheoliadau.

Beth yw McCloud?

Pan ddiwygiodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn 2014 a 2015, cyflwynwyd amddiffyniadau trosiannol ar gyfer aelodau hŷn. Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl fod aelodau iau cynlluniau pensiwn barnwrol a diffoddwyr tân wedi bod yn destun gwahaniaethu anghyfreithlon am nad oedd yr amddiffyniadau yn berthnasol iddynt.

Gelwir y dyfarniad hwn yn ddyfarniad McCloud, ar ôl aelod o’r Cynllun Pensiwn Barnwrol a oedd yn ymwneud â’r achos. Oherwydd y dyfarniad, bydd newidiadau i bob Cynllun Pensiwn Gwasanaeth Cyhoeddus a ddarparodd amddiffyniad trosiannol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).

Gelwir y newidiadau hyn yn rhwymedi McCloud a bwriedir iddynt ddileu’r gwahaniaethu ar sail oedran a nodwyd yn achos llys McCloud.

Daeth y newid hwn i rym ar 1 Hydref 2023 sef Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) (Rhif 3) 2023 SI2023/972. Mae’r amddiffyniad Tanategu yn berthnasol i bensiwn a gronnwyd yn ystod cyfnod y rhwymedi yn unig, sef rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022. Bydd y tanategu wedi dod i ben yn gynharach os oeddech wedi gadael y cynllun neu gyrraedd oedran ymddeol arferol eich cyflog terfynol (65 oed fel arfer) cyn 31 Mawrth 2022.

Ydw I'n cael fy effeithio?

Gallwch ddarganfod os mae hyn yn effeithio arnoch chi gan ddefnyddio’r siart lif isod, neu gan fynd i wefan genedlaethol aelodau’r CPLlL a defnyddio’r offeryn rhyngwreithiol defnyddiol yno www.lgpsmember.org/mccloud-remedy/am-i-affected/

Beth sydd angen i chi wneud?

Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Bydd y Gronfa yn cyfrifo a oes unrhyw bensiwn ychwanegol yn ddyledus i chi (tanategu). Ni fydd llawer o aelodau yn gweld cynnydd yn eu pensiwn oherwydd i’r mwyafrif, mae’r pensiwn a gronnwyd yn y cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (CARE), a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2014 ac sy’n berthnasol i bob aelod o'r dyddiad hwn, yn uwch nag y byddai wedi bod yn y cynllun cyflog terfynol.

Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Mi fyddwn yn cysylltu ag unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan y newidiad yn y rheoliadau.

Aelodau Actif ac Aelodau Gohiriedig

Os byddwch yn gadael y cynllun pensiwn, byddwn yn cyfrifo swm tanategu dros dro, ond cyfrifir y swm tanategu terfynol (pensiwn ychwanegol) pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn. 

Mae gennym tan fis Awst 2025 i gynnwys gwybodaeth am amddiffyniad tanategu i’r holl aelodau cymwys yn y Datganiadau Buddion Blynyddol.

Os byddwch yn dod yn aelod gohiriedig neu'n cymryd eich buddion pensiwn cyn y dyddiad hwn, byddwn yn cyfrifo'ch hawl i'r swm tanategu (pensiwn ychwanegol) wrth gyfrifo’ch pensiwn.

Aelodau Pensiynwyr

Os rydych yn derbyn pensiwn yn barod, mi fyddwn ni’n gweithio allan os rydych yn gymwys ar gyfer ychwanegiad i’ch pensiwn presennol. My fyddym yn gwneud hyn cyn gynted a phosib ar ôl 1 Hydred 2023.

Ddim on dos mae’r ‘sylfaen newydd’ yn olygu fydd eu pensiynau yn cynyddu fyddym yn ysgrifennu i bensiynwyr.