CYHOEDDIAD

Newyddion i Gyflogwyr

Croeso i’n tudalen newydd i Gyflogwyr. Mae’r dudalen hon i Gyflogwyr sy’n defnyddio Cynllun Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen). Mae’r Gronfa Bensiwn wrthi’n datblygu’r dudalen hon ar hyn o bryd. Os na allwch ddod o hyd i ffurflen neu ganllaw ar y dudalen hon, yna da chi cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn er mwyn i ni anfon y ddogfen berthnasol atoch.

Ffurflenni i Gyflogwyr

Opens in new window

Hysbysiad gadael y CPLlL mewn Swydd

Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn pan fydd aelod yn gadael eu swydd gyda chi ac yn talu i mewn i’r CPLlL gyda’r Gronfa.

Opens in new window

Ffurflen Gais am Amcangyfrif

Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ofyn am amcangyfrif ar gyfer aelod o’r pensiwn CPLlL. Dylech lenwi’r ffurflen hon dim ond os oes arnoch angen gwybod beth yw’r gost o wneud penderfyniad i derfynu cyflogai ar sail dileu swydd, effeithlonrwydd busnes, ymddeoliad hyblyg neu ymddeoliad oherwydd salwch.

Opens in new window

Ffurflen Newid Amgylchiadau

Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn am unrhyw un o’r newidiadau canlynol yn ymwneud ag aelod:- • Ymuno ag adran 50/50 y CPLlL • Ailymuno â phrif adran y CPLlL • Newid Cyfeirnod y Swydd • Newid Cyfradd Gyfrannu Pensiwn • Newid Oriau Cytundebol • Newid Wythnosau Cytundebol • Saib mewn Gwasanaeth Pensiynadwy • Newid Enw • Newid Cyfeiriad • Newid cyfeiriad e-bost personol

Opens in new window

Hysbysiad fod deiliad swydd yn ymuno â’r CPLlL

Dyma’r ffurflen i gyflogwyr ddweud wrth y Gronfa Bensiwn am gyflogai sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y CPLlL.

Opens in new window

Ffurflen Gais Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol

Dylid llenwi’r ffurflen hon pan fydd cyflogwr yn dymuno gofyn i’r Gronfa Bensiwn ystyried ychwanegu Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol at restr y Gronfa o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig Annibynnol sydd wedi eu cymeradwyo.

Canllawiau i Gyflogwyr

Opens in new window

Ymddeol ar sail afiechyd – Canllawiau i Gyflogwyr

Mae’r canllawiau hyn i Gyflogwyr a Chynghorwyr Meddygol y Cynllun ac mae’n cyflwyno darpariaethau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) mewn perthynas ag absenoldeb oherwydd salwch ac ymddeol ar sail afiechyd.

Opens in new window

Cynorthwyydd Pensiwn – Ffeithlen Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol

Cynorthwyydd Pensiwn – Ffeithlen Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol

Canllaw Cyflogwyr i’r Polisi a’r Gofynion ar gyfer Statws Corff a Dderbynnir

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno Polisi Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) mewn perthynas â dyfarnu Statws Corff a Dderbynnir. Cyfrifoldeb y Cyflogwr sy’n defnyddio ffynonellau allanol yw sicrhau y cedwir at y Polisi hwn. Gallai peidio â chydymffurfio â’r polisi hwn achosi oedi cyn dyfarnu Statws Corff a Dderbynnir i gontractwr neu ymddiriedolaeth newydd ac yn sgil hynny gallai achosi oedi cyn dyfarnu’r contract neu yn y broses o sefydlu’r ymddiriedaeth. Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cyflwyno’r materion hynny y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cytundeb Derbyn a’r gofyniad i sicrhau bod Bond, Indemniad neu Warantydd mewn lle. Yn ogystal, rhaid i’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru gydymffurfio â Chyfarwyddyd Trosglwyddo Staff Awdurdodau Cymru (Pensiynau) 2012.

Gwybodaeth yr ydych yn ei Hanfon at y Gronfa 

Taenlenni

Mae angen i gyflogwyr anfon y taenlenni hyn at fewnflwch pensionsdata@torfaen.gov.uk. Er gwybodaeth, mae’r taenlenni hyn ar ddiwedd yr adran hon. 

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Y rheiny sy’n ymuno 
  • Cyfraniad a Chyflog 
  • Diweddaru saib mewn gwasanaeth 
  • Diweddaru oriau gwaith 

Os ydych yn defnyddio I-Connect, nid oes gofyn mwyach i chi lanlwytho’r taenlenni hyn yn fisol. Yn syml, rhaid i chi gwblhau 1 daenlen y mis a bydd y daenlen hon yn diweddaru cofnodion eich aelod yn awtomatig. 

Lawrlwytho Taenlenni 
Y rheiny sy’n ymuno Cyfraniadau Misol Saib Mewn Gwasanaeth Oriau Gwaith
Ffurflenni

Ffurflenni Cychwyn a Newid Amgylchiadau 

Y ffordd fwyaf effeithiol o anfon ffurflenni cychwyn a newid at y gronfa yw defnyddio taenlen, ond os oes angen i chi lenwi ffurflen ar gyfer aelod sengl, gallwch lawrlwytho’r ffurflenni hyn oddi ar yr adran ffurflenni i gyflogwyr ar y dudalen hon. Rhaid anfon y rhain at pensionsdata@torfaen.gov.uk

 

Ffurflenni Ymadawyr, Amcangyfrif a Chyfraniadau Pensiwn Ychwanegol  

Rhaid anfon ffurflenni Ymadawyr, Amcangyfrif a Chyfraniadau Pensiwn Ychwanegol at pensions@torfaen.gov.uk.

 

Os oes gennych gwestiynau cyffredinol, anfonwch neges e-bost at pensions@torfaen.gov.uk. Os ydych yn ateb aelod penodol o’r tîm pensiynau, anfonwch eich ateb yn uniongyrchol atyn nhw gan ddefnyddio’u cyfeiriad e-bost. 

 

Cyfathrebu a Newyddion 

Mae Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf yn hoffi rhoi’r newyddion diweddaraf i Gyflogwyr ein Cynllun a’r diweddaraf am y cymorth sydd ar gael  

Rydym yn cefnogi ein cyflogwyr trwy gynnig:- 

  • Cylchlythyron Chwarterol i Gyflogwyr 

  • Bwletinau trwy E-bost – ynghylch newidiadau i ddeddfwriaeth a digwyddiadau hyfforddiant LGA sydd ar droed 

  • Hyfforddiant i Gyflogwyr 

 

Fy Mhensiwn Ar-lein 

Mae’r Gronfa’n galluogi aelodau i weld manylion eu pensiwn ar-lein trwy ein Gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein.  Mae’n hawdd cofrestru ac os oes gennym gyfeiriad e-bost yr aelod ar eu cofnod pensiwn yn barod, gallant gael mynediad at eu manylion ar yr un diwrnod.  

 

Gall aelodau ddiweddaru eu manylion personol, gan anfon gwybodaeth yn ddiogel at y Gronfa trwy eu cyfrif, gweld eu datganiad o fuddion blynyddol a defnyddio’r Teclyn Rhagamcanu Pensiwn i greu eu hamcangyfrifon eu hunain (rhwng 55 a 75 oed). 

Mae’r Gronfa Bensiwn yn dymuno sicrhau bod cynifer o’n haelodau â phosib yn manteisio ar y gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Er mwyn gwneud hyn mae arnom angen i chi, gyflogwyr ein cynllun, i helpu hysbysebu’r gwasanaeth yn rheolaidd.  Gallwch wneud hyn trwy lawrlwytho ein hysbysebion wedi’u brandio a’u gosod ar eich mewnrwyd i staff, mewn cylchlythyron a gwybodaeth i gyflogeion newydd a hyd yn oed ar slipiau cyflog os yn bosibl.   

 

FMhA – Taflen A4  

FMhA – Erthygl ar gyfer Cylchlythyr/Mewnrwyd 

Cysylltwch â Ni

Cliciwch ar y botwm + ar y dde er mwyn dangos Rhestr o Gysylltiadau’r Gronfa Bensiwn

Cysylltwch â Ni

Os ydych yn ateb neges e-bost a gafwyd gan aelod o staff y Gronfa Bensiwn, dylech ei hateb yn uniongyrchol ac ni ddylech ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost cyffredinol a ddangosir isod. 

Enw

Math

Cyfeiriad E-bost 

 

Cychwyn 

Taenlen 

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Ffurflen

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Newid amgylchiadau 

Ffurflen

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Diweddaru Saib mewn Gwasanaeth 

Taenlen 

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Diweddaru Oriau Gwaith 

Taenlen 

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Cyfraniadau Misol 

Taenlen 

pensionsdata@torfaen.gov.uk

Diweddu 

Ffurflen

pensions@torfaen.gov.uk

Amcangyfrifon 

Ffurflen

pensions@torfaen.gov.uk

CPY 

Ffurflen

pensions@torfaen.gov.uk