Buddion gohiriedig
Cewch fuddion os ydych yn cadw eich arian yn y Cynllun Pensiwn.
Cewch fuddion os ydych yn cadw eich arian yn y Cynllun Pensiwn.
Cyfrifir eich pensiwn wrth i chi adael y Cynllun, ar sail yr aelodaeth yr ydych wedi ei chronni a’ch cyflog yn ystod eich aelodaeth, yn yr un ffordd ag ymddeoliad.
Yna, caiff ei ddal yn y Cynllun ble bydd ei werth yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw, hyd nes y caiff ei dalu.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sy’n digwydd i’ch pensiwn os ydych yn gadael y Cynllun yn yr adran ‘ddim yn talu i mewn mwyach’ ar y wefan hon.
Gwybodaeth gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ar-lein.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn sicrhau y telir y dreth gywir ar yr adeg iawn.
Mae HelpwrArian yn dod â chanllawiau yn ymwneud ag arian a phensiynau at ei gilydd fel ei bod yn haws ac yn gyflymach dod o hyd i’r cymorth iawn. Mae’n dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr canllawiau ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, at ei gilydd mewn un man: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
Mae adnoddau rhad ac am ddim fel HelpwrArian neu wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn wych. Gallant eich helpu i feithrin eich gwybodaeth am bensiynau a’ch tywys trwy’r materion pwysig yr ydych yn eu hwynebu wrth i chi ymddeol. Yn hytrach na rhoi arweiniad cyffredinol i chi, bydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn edrych ar eich amgylchiadau unigol, eich sefyllfa ariannol a’ch nod wedi ymddeol, ac yn cynnig argymhelliad sy’n benodol i’ch sefyllfa bersonol chi. Ni fydd pob un eisiau talu am wasanaeth Cynghorydd Ariannol Annibynnol, ond os ydych yn dymuno talu, yna mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio un sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Os oes arnoch angen cyngor am drosglwyddo eich cynilion pensiwn, dylech siarad â Chynghorydd Ariannol Annibynnol sydd â chymhwyster yn y maes hwn.
Gallwch ddod o hyd i Gynghorydd Ariannol Annibynnol lleol sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, trwy ddefnyddio teclyn o’r enw ‘Darganfod ymgynghorydd ymddeoliad’ sydd ar gael gan HelpwrArian.
Am wybodaeth am bensiynau’r wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch ddarganfod ar ba oed y gallwch hawlio pensiwn y wladwriaeth.
Os oeddech yn aelod o gynllun arall yn y gorffennol, ac rydych wedi colli cysylltiad â nhw, yna dylai’r corff canolog hwn fod yn gallu eich helpu i ddod o hyd iddynt.
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn wylgi pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn iawn. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau rhag twyll. Gall unrhyw un sy’n pryderu am gynllun ‘chwythu’r chwiban’ wrth y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Sefydlwyd yr Ombwdsmon Pensiynau o dan y Ddeddf Pensiynau, ac mae’n gallu ymchwilio i unrhyw gŵyn neu anghydfod neu ffaith gyfreithiol sy’n ymwneud â’ch cynllun pensiwn, a’u pennu.
Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae’r wefan hon ar gyfer cyflogeion yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y CPLlL newydd sy’n berthnasol er 1 Ebrill 2014.
Adroddiad Blynyddol Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru a Lloegr.
Chwiliwch am gynghorydd ariannol annibynnol. Sicrhewch eu bod yn deall y CPLlL.
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Gwybodaeth am wasanaethau ariannol y Deyrnas Unedig. Cynnyrch ariannol a chyngor am arbed arian.
Gwefan ariannol hunan-gymorth flaenllaw’r Deyrnas Unedig.
Ewch i’r wefan hon am gyngor am leihau eich costau.
Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol
Cymorth i awdurdodau lleol yn eu rôl adnoddau dynol. Maent yn helpu trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar reoli a datblygu pobl mewn llywodraeth leol ac arwain y broses o ffurfio polisïau am rai o’r materion sy’n gysylltiedig â chyflogwyr.
Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
Mae’r adran hon yn gyfrifol am feysydd polisi yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau gynt a’r Swyddfa Cabinet.
Mae Age Concern yn cefnogi pob un dros 50 yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau eu bod yn cael y gorau o fywyd. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol, er enghraifft gofal dydd a gwybodaeth. Maent hefyd yn ymgyrchu dros faterion fel gwahaniaethu ar sail oed a phensiynau, ac yn gweithio i ddylanwadu ar farn y cyhoedd a pholisi’r llywodraeth mewn perthynas â phobl hŷn.
Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill, trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim o dros 3,000 o leoliadau, a thrwy ddylanwadu ar y rheiny sy’n llunio polisïau. Gallwch ddod o hyd i fanylion swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol trwy fynd i wefan Cyngor ar Bopeth.
Cyngor defnyddiol er mwyn adnabod sgamiau yn ymwneud â phensiynau, a’u hosgoi.