Yn sgil newidiadau i drefniadau llywodraethu cynlluniau pensiwn yn y sector cyhoeddus, mae gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel awdurdod gweinyddu ar gyfer y CPLlL, sicrhau bod bwrdd pensiynau lleol yn ei le. Rôl y bwrdd yw cynorthwyo Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) i gydymffurfio â’r holl ofynion deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei lywodraethu a’i reoli’n effeithiol ac yn effeithlon.  

Mae aelodau’r Bwrdd Pensiynau yn gweithio gyda’r Cyngor yn ei rôl fel awdurdod gweinyddu a gyda swyddogion y gronfa bensiwn, er mwyn sicrhau bod eich cynllun pensiwn yn cael ei redeg yn iawn a’ch bod chi fel aelod yn cael y gwasanaeth gorau. 

Rhaid i aelodau’r bwrdd pensiynau lleol gydymffurfio â gofynion a gyflwynir gan reoliadau a orfodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau, ac felly mae gofyn iddynt gynnal eu gwybodaeth am y CPLlL a phensiynau yn gyffredinol, a’u dealltwriaeth ohonynt. Er mwyn gwneud hyn, cânt hyfforddiant priodol. 

Ar y bwrdd, rhaid cael nifer cyfartal o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau’r cynllun. Yn ogystal, rydym hefyd wedi penodi cadeirydd annibynnol i oruchwylio’r bwrdd i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llyfn. 

Penodir cynrychiolwyr aelodau’r cynllun a chynrychiolwyr cyflogwyr i’r bwrdd am gyfnod o 3 blynedd. Pennir hyd cyfnod y Cadeirydd annibynnol gan y Cyngor. 

Mae aelodaeth y bwrdd fel ag yr oedd fis Ebrill 2018 fel a ganlyn: 

Cynrychiolwyr cyflogeion 

  • Bob Campbell
  • Ian Reese
  • Anthea Wellington
  • John Wright
  • Diane Morley

Cynrychiolwyr cyflogwyr 

  • Steve Harford
  • Rhian Hayden
  • Clive Rogers
  • Meirion Rushworth
  • Jane Waters

ICadeirydd Annibynnol 

  • Ian Coleman

Gallwch weld cofnodion cyfarfodydd blaenorol y bwrdd trwy glicio ar y ddolen isod 

Nodwch 

Mae aelodau’r Bwrdd yn gallu gofyn am gael eu hailbenodi ar ddiwedd eu cyfnod ar y bwrdd. 

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol